Beth yw cyfraniad y dafarn leol i gymuned?

Image copyright Iolo Penri

Mae aelod blaenllaw o'r Eglwys Bresbyteraidd wedi mynegi ei siom mewn erthygl yn ddiweddar fod cymaint o gapeli yn cau, ond fod gymaint o dafarndai yn cael eu hachub, er eu bod "wedi cyfrannu cyn lleied i'n cenedl."

Ond mae Luned Evans, sydd ar bwyllgor gwaith Tafarn Y Fic yn Llithfaen, yn anghytuno. Dyma dafarn bentref gymunedol gydweithredol hynaf Ewrop, sydd wedi cael ei rhedeg gan y gymuned yn llwyddiannus ers dros 30 mlynedd.

Yma, mae Luned yn rhoi ei safbwynt am gymaint mae ei thafarn lleol hi wedi ei gyfrannu i'r gymdeithas o'i chwmpas:


Yn wahanol iawn i'r darlun y mae Dr Rees yn ei gyfleu, rydw i'n falch iawn o adrodd fod Tafarn y Fic yma yn Llithfaen yn gonglfaen gref i'r gymuned. Mae'r dafarn gydweithredol hon yn werthfawr iawn yn economaidd ac yn gymdeithasol.

Gallwn sôn am yr ymarfer Gwaddol Cymdeithasol yn Sgil Buddsoddiad sy'n gwerthuso cyfnod o 10 mlynedd y Fic fel busnes cynaliadwy (2004 -2014), a'r dystiolaeth fod £2.28 o werth cymdeithasol wedi cael ei greu am bob £1.00 a fuddsoddwyd yn y Fic.

Ond dim ond y ffigyrau oer, amhersonol ydi'r rhain.

Mae'r Fic yn lle i deuluoedd a ffrindiau ymgynnull. I ddweud y gwir, drwy gyfarfod yn y Fic y mae llawer iawn o bobl y pentref wedi dod i adnabod ei gilydd - yn enwedig y newydd-ddyfodiaid.

Luned Evans Image copyright Tafarn y Fic
Image caption Luned Evans

Erbyn hyn mae'r boblogaeth sy'n mynychu'n lled-reolaidd yn fwy fel teulu yn hytrach na thrigolion cyfagos.

Mae'r rhwystrau arferol sy'n cadw pobl o oedrannau gwahanol ar wahân wedi eu diddymu yma. Yn amlach na pheidio, bydd y criwiau sy'n ymgynnull am sgyrsiau difyr wrth y tân neu'r bar yn cynnwys ystod oedran o bobl yn eu hugeiniau hyd at rai yn eu saithdegau - neu hŷn.

Mae'r Fic yn bodoli er mwyn y gymuned, ac yn cael ei rhedeg gan y gymuned honno.

Yn ogystal â'r nosweithiau lle cawn ein diddanu gan fandiau neu gerddorion, cynhelir digwyddiadau ar gyfer y plant. Ceir Parti Nadolig ar gyfer plant y plwyf bob Nadolig, yn ogystal â pharti calan gaeaf a pharti tân gwyllt.

Euros Image copyright Tafarn y Fic
Image caption Cenhedlaeth nesa' Llithfaen yn dathlu llwyddiant Cymru yn yr Euros yn 2016

Mae'r Fic yn fwrlwm o brysurdeb plant pan nad oes gweithgaredd wedi ei drefnu yno. Maent wrth eu boddau yn dod yno i weld ei gilydd, a chael manteisio ar Y Llofft pan mae'n wag, neu orlifo allan i'r cefn ac i'r cae chwarae sy'n ffinio gyda'r dafarn.

Fel canolfan gymdeithasol, mae'r Fic yn falch o allu cynnig Y Llofft fel lleoliad i Gôr Meibion Carnguwch ymarfer.

Cynhelir digwyddiadau cyson dan gynllun 'Be' wnawn ni heddiw' yma yn y Fic. Amcan y cynllun yw rhoi cyfle i bobl hŷn gymdeithasu tra'n cael eu diddanu neu eu dysgu.

Tafarn y Fic Image copyright Tafarn y Fic
Image caption Candelas yn chwarae yn Y Llofft, a'r lle dan ei sang

Ceir cwis unwaith y mis, ac eleni am yr eildro, bydd y dafarn yn fan ymgynnull ar gyfer dechrau a gorffen ras tri chopa'r Eifl. Onid llwyddiant, rhywbeth i'w ddathlu ydi hyn i gyd?

Mae pawb yn gwybod nad ydi pethau'n aros yr un fath am byth. Mae'r oes wedi newid, ac yn sicr mae syniadau pobl am grefydd a materion ysbrydol wedi newid.

Yng ngoleuni hynny, onid y peth adeiladol i'w wneud fyddai meddwl am gyfleoedd cadarnhaol, arloesol o sicrhau fod pobl Cymru yn cael cyfle i ddod at ei gilydd i gymdeithasu, mwynhau, rhwydweithio, dysgu, canu, rhannu, a hynny i gyd yn Gymraeg?

Ac os mai yn y dafarn leol mae'r cyfle i wneud hynny i gyd, wel hir oes i Fic Llithfaen.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig