Y cyn-weinidog Leighton Andrews yn gadael y Blaid Lafur

Leighton Andrews
Image caption Leighton Andrews oedd AC Llafur yn etholaeth Rhondda rhwng 2003 a 2016

Mae cyn-weinidog Llywodraeth Cymru wedi gadael y Blaid Lafur a phleidleisio dros y Blaid Werdd yn yr Etholiad Ewropeaidd.

Leighton Andrews oedd Aelod Cynulliad Rhondda nes iddo golli ei sedd i arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Leanne Wood, yn 2016.

Dywedodd ei fod wedi "benthyg" ei bleidlais i'r Blaid Werdd am fod Llafur yn "cefnogi Brexit ac yn wrth-Semitaidd".

Mae Mr Andrews o blaid refferendwm arall ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae wedi bod yn feirniadol o arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn.

'Osgoi'r penderfyniad allweddol'

Bu Mr Andrews yn weinidog addysg a gweinidog gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn ystod ei gyfnod yn y Cynulliad.

Dywedodd Mr Andrews yn ei flog y byddai'n hoff o ailymuno â Llafur, ond na fyddai'n gwneud hynny pe bai'r blaid yn "galluogi Brexit i ddigwydd".

"Mae'r dde eithafol ar gynnydd. Gallai arweinyddiaeth Llafur fod wedi arwain y ffordd i'r cyfeiriad arall. Yn lle hynny, mae'n osgoi penderfyniad allweddol ein hoes," meddai.

Image caption Mae Leighton Andrews wedi bod yn feirniadol o arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn

Dywedodd AC Llafur dros Flaenau Gwent, Alun Davies, ei fod yn cytuno â nifer o sylwadau Mr Andrews ynglŷn ag arweinyddiaeth y blaid.

Yn ôl Mr Davies mae "arweinyddiaeth egwyddorol wedi bod ar goll" yn ymgyrch etholiadol Llafur.

"Mae'r dde eithafol wedi bod ar gynnydd ac mae Llafur wedi gwylio hynny'n digwydd," meddai.

Ychwanegodd Mr Davies bod barn Mr Andrews "fwy na thebyg yn adlewyrchu pryderon a siomedigaeth y mwyafrif o'n haelodau".

Image caption Dywedodd Alun Davies bod "arweinyddiaeth egwyddorol wedi bod ar goll" yn ymgyrch etholiadol Llafur

Dywedodd Llafur Cymru bod ei pholisi ar Brexit wedi cael ei gytuno arno yng nghynhadledd y blaid, sef "cael cytundeb sy'n amddiffyn swyddi a'r economi".

"Os nad oes modd sicrhau hynny ac os yw'r Ceidwadwyr yn parhau i osgoi etholiad cyffredinol, mae'n rhaid i'r penderfyniad fynd yn ôl i'r bobl," meddai llefarydd.

"Mae'r Blaid Lafur yn herio gwrth-Semitiaeth yn ddifrifol iawn.

"Fel mae Mark Drakeford wedi'i ddweud ar sawl achlysur, does dim lle i wrth-Semitiaeth yn y blaid a dim lle i wrth-Semitiaeth yng Nghymru."

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol