Sioe gynradd Steddfod yr Urdd: Tu ôl i'r llen

Nos Fawrth 28 Mai, bydd disgyblion o 19 ysgol gynradd o ardal Caerdydd a'r Fro yn dod ynghyd i berfformio'r sioe arbennig Troi Heddiw'n Ddoe.

Mae'r sioe wreiddiol, gan Anwen Carlisle a Dyfan Jones, yn adrodd stori Deio a Sara, sy'n dod i ddociau Caerdydd i weithio, a'r holl ddatblygiadau a fu i'r ardal, ddechrau'r ganrif ddiwethaf.

Dyma benllanw misoedd o ymarfer. Aeth y ffotograffydd, Sioned Birchall, draw i Ganolfan y Mileniwm i gael cip ar y paratoadau munud olaf.

dawnsio Image copyright Sioned Birchall
Image caption Mae digon o gyfle i ganu, actio a dawnsio (a chael hwyl!) yn y sioe yma
ffrindiau Image copyright Sioned Birchall
Image caption Mae'r sioe wedi bod yn gyfle i wneud ffrindiau newydd o ysgolion gwahanol
Hamadrayad Image copyright Sioned Birchall
Image caption Yn y sioe, daw Sara i weithio fel nyrs yn Ysbyty Hamadryad - sydd wedi rhoi ei enw i ysgol gynradd Gymraeg ieuengaf Caerdydd, Ysgol Hamadryad
Ffredi Image copyright Sioned Birchall
Image caption Ffredi sy'n actio Deio, sydd wedi dod i ddociau Caerdydd i weithio ar y llongau
edrych Image copyright Sioned Birchall
Image caption Beth sydd wedi digwydd fan'na?
dawnsio Image copyright Sioned Birchall
Image caption Pawb 'da'i gilydd, nawr...
hetiau Image copyright Sioned Birchall
Image caption Oes gen ti ddigon o hetiau?!
Donald Gordon Image copyright Sioned Birchall
Image caption Cyfle bythgofiadwy i gael perfformio o flaen cynulleidfa enfawr yn Theatr Donald Gordon
Seren ac Asia Image copyright Sioned Birchall
Image caption Seren ac Asia gyda'u props hanfodol
Elan Isaac Image copyright Sioned Birchall
Image caption Elan Isaac, brodor o'r ardal, yw coreograffydd y sioe
Pawb yn joio! Image copyright Sioned Birchall
Image caption Pawb dal i fwynhau, er yr holl waith caled
Ifan, Owen a Twm Image copyright Sioned Birchall
Image caption Mae gan Ifan, Owen a Twm job bwysig
Aled Williams Image copyright Sioned Birchall
Image caption Diolch byth fod Mr Aled Williams o Ysgol y Wern wrth law i roi trefn ar y plant (ac i gasglu'r sbwriel)
Gwen Image copyright Sioned Birchall
Image caption Gwen yn y golau
Gruff a Hannah Image copyright Sioned Birchall
Image caption Gruff a Hannah yn ymarfer eu llinellau
gwenu Image copyright Sioned Birchall
Image caption Pob lwc i bawb!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig