"Os mae iaith yn bodoli, mae'n werth ei siarad."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Penderfynodd Geordan Burress ddysgu Cymraeg ar ôl clywed cân gan Super Furry Animals.

Caneuon Cymraeg Super Furry Animals a ysbrydolodd Geordan Burress o Cleveland, Ohio i ddysgu Cymraeg gyntaf, a hynny yn ôl yn 2011.

Mae hi wedi teithio i Gymru am y tro cyntaf, ac wedi cael digon o gyfle i ymarfer ei Chymraeg a chwrdd â ffrindiau newydd yn ystod ei hwythnos yma.

Ac er ei bod yn gorfod dychwelyd adref i'r Unol Daleithiau, mae hi'n edrych ymlaen at ei hymweliad nesaf â Chymru yn barod.