Cerbyd mewn cronfa ddŵr ger yr A470

Cronfa ddŵr Brycheiniog Image copyright Google
Image caption Mae tair cronfa cronfa ddŵr oddi ar ffordd yr A470 rhwng Merthyr Tudful ac Aberhonddu

Aed â gyrrwr i'r ysbyty ddydd Llun ar ôl i gerbyd wyro oddi ar ffordd yr A470 ar Fannau Brycheiniog a glanio mewn cronfa ddŵr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r gronfa ger canolfan awyr agored Storey Arms am 12.30 gan yrwyr eraill.

Aeth y gyrrwr, oedd wedi llwyddo i ddianc gyda mân anafiadau, i Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful mewn ambiwlans.

Mae ymdrechion i godi'r cerbyd o'r dŵr yn parhau.