Lluniau: Dydd Mawrth Eisteddfod yr Urdd

Rhai o'r golygfeydd ar y Maes ar ail ddiwrnod Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd.

Hei Mistar Urdd! Disgyblion Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd wedi dod i'r maes yn eu coch, gwyn a gwyrdd
Image caption Hei Mistar Urdd! Disgyblion Ysgol Gymraeg Melin Gruffydd wedi dod i'r maes yn eu coch, gwyn a gwyrdd
Huw
Image caption Y DJ adnabyddus Huw Stephens oedd Llywydd y Dydd
Dwylo i fyny! Hwyl gyda bybls ar y maes
Image caption Dwylo i fyny! Hwyl gyda swigod ar y maes
Rownd a rownd: Elsa o Ruthun yn mwynhau'r ffair
Image caption Rownd a rownd: Elsa o Ruthun yn mwynhau'r ffair
aber
Image caption Aelodau grŵp dawnsio amlgyfrwng Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn paratoi i fynd ar lwyfan y Pafiliwn
Mwynhau'r perfformio a'r prysurdeb yng Nghanolfan y Mileniwm
Image caption Y perfformio a'r prysurdeb ger Llwyfan y Lanfa yng Nghanolfan y Mileniwm
gamp lawn
Image caption Chloe, Eleri a Willow o Aberdâr yn dal tlws y Chwe Gwlad
bbc
Image caption Laveah, 3 oed, o Gaerdydd yn mwynhau'r bwyd sydd ar gael ar y maes... a digon o sôs coch
bwyd
Image caption Bwyd Indiaidd, pizza, crempog, byrger... mae digonedd o ddewis o fwyd ar y maes (a digonedd o gwsmeriaid am eu blasu!)
Gwern o Machynlleth yn mwynhau'r bownsio
Image caption Gwern o Machynlleth yn bownsio fry
Mr
Image caption Mr Phormula yn rhoi sesiwn 'beatboxio' ar y llwyfan lliwgar, gyda Phenarth i'w weld yn y cefndir
hufern ia
Image caption James a'i chwaer fach, Lily, o Landaf yn mwynhau hufen iâ yng nghwmni Mam-gu a Tad-cu
dysgwyr
Image caption Roedd yna dipyn o dorf yn y Pafiliwn ar gyfer prif seremoni y dydd, Medal y Dysgwyr
tywydd
Image caption Roedd hi'n gynnes ac yn braf ar y Maes erbyn diwedd y prynhawn - tywydd sbectol haul go iawn!

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau Cysylltiedig