Dathlu 60 mlynedd o Ysgol Gymraeg Llundain yn yr Urdd

YGLL

Bu Ysgol Gymraeg Llundain yn dathlu 60 o flynyddoedd ers sefydlu'r ysgol ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddydd Mercher.

Gyda bron i bob disgybl yn bresennol, llwyddodd yr ysgol i ddod yn ail yng nghystadleuaeth y gân actol, am berfformiad yn adrodd hanes dyddiau cynnar yr ysgol.

Dywedodd un o'r athrawon bod yr ysgol yn teimlo "fel teulu mewn dinas sy'n gallu bod yn le unig".

Datblygodd y syniad o greu ysgol Gymraeg yn Llundain o ysgol Sul mewn capel ymysg Cymry.

Roedd sawl ymgais i godi arian gan rieni'r cyfnod er mwyn sefydlu'r ysgol, fel dwy fam a gychwynnodd fusnes arlwyo, a thad a brynodd fws mini er mwyn cludo'r disgyblion.

60 o flynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd yr hanes yna ei adrodd gan ddisgyblion presennol yr ysgol.

Un oedd yn cystadlu oedd Cerith, 11. Soniodd bod ei ffrindiau y tu allan i'r ysgol "ddim yn gwybod bod y ffasiwn beth yn bodoli!"

Mae'r ysgol yn cynnal clwb yr Urdd bob ddydd Mawrth lle maen nhw'n cael canu a chwarae gyda'i gilydd.

"Ni'n licio cystadlu yn yr Eisteddfod achos ni'n cael pizza bob tro ar ôl gwneud," meddai Cerith.

"Dwi wedi bod yn cael lot o hwyl yn ymarfer ers wythnosau. Mae o i gyd wedi mynd i'r perfformiad da ni newydd ei wneud, a dwi'n meddwl fod pawb yn hapus gyda beth maen nhw wedi gwneud."

'Ni gyd fel teulu'

Un o rieni'r plant yw Rhian, sy'n wreiddiol o Gynwyl Elfed ger Caerfyrddin ond sy'n byw yn Llundain ers blynyddoedd ac sydd â thri o blant sydd wedi bod i'r ysgol Gymraeg.

Dywedodd bod "pawb yn edrych ar ôl ei gilydd yn yr ysgol".

"Mae'n swnio'n cliche, ond ni gyd fel teulu - ac mae hynny'n bwysig mewn dinas sy'n gallu bod yn le unig."

Pwysleisiodd bod agwedd y rhieni di-Gymraeg sy'n gyrru eu plant i'r ysgol yn "ffantastig" ac yn "gefnogol i'r carn".

Image caption Yn gwylio yn y gynulleidfa oedd John Jenkins, un o ddisgyblion cynharaf yr ysgol pan sefydlwyd yn 1958

Yn gwylio o'r gynulleidfa oedd John Jenkins, 65, un o ddisgyblion cyntaf yr ysgol oedd yn cael ei gynnwys fel cymeriad yn y gân actol.

"Ges i fy ngeni yn Llundain, ond nawr yn byw yn Ffos-y-ffin. O'n i'n un o'r plant cyntaf i fynd i'r ysgol pan ddechreuodd e," meddai.

"O'n i'n meddwl eu bod nhw'n arbennig, ddim yn unig am eu bod nhw'n cymryd rhan, ond y ffaith fod yr ysgol yn dal i fynd yn Llundain."

Roedd Mr Jenkins yn ddisgybl yn yr ysgol tan yn 11 oed, pan benderfynodd ei deulu symud yn ôl i orllewin Cymru yn sgil y diffyg addysg uwchradd Gymraeg yn y ddinas.

Dywedodd wrth Cymru Fyw mai'r "peth mwyaf arbennig yw ei bod hi'n ysgol fach yng nghanol Llundain".

"Eu bod nhw'n siarad Cymraeg, bod pobl yn teithio mor bell, a gwneud cymaint o ymdrech i fynychu'r ysgol."