Manon Steffan Ros: "Angen dathlu" bardd a aeth yn angof

Mae'r Cymry yn hoff iawn o ddathlu ei beirdd, ond faint fyddai'n gwybod rhywbeth am Elen Egryn, llenor o bwysigrwydd hanesyddol?

Nawr mae un o'n hawduron mwyaf blaenllaw yn gobeithio bydd mwy yn dod i wybod am y fenyw gyntaf i gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth Cymraeg wrth i stad o dai gael ei henwi ar ei hôl.

Manon Steffan Ros wnaeth gynnig yr enw ar gyfer y datblygiad newydd yn Nhywyn, a chafodd Llys Elen Egryn ei gymeradwyo gan y cyngor.

Image caption Mae Manon Steffan Ros yn gobeithio bydd mwy o bobl yn dechrau darllen cerddi Elen Egryn

Ond fel wnaeth yr awdur gyfaddef ar raglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru, doedd hithau chwaith ddim yn ymwybodol o Elen Egryn tan yn ddiweddar.

"Dwi'n byw yn ardal Dysynni ers dros ddegawd bellach ond doeddwn i erioed wedi clywed amdani," meddai Manon Steffan Ros.

"Digwydd gweld y gyfrol Telyn Egryn mewn siop elusen nes i, a 'nabod yr enw Egryn a gweld bod 'na lun ar ffrynt y gyfrol o blant bach ar bont Llanegryn... ac ro'n i wedi gwneud lot o waith ymchwil am yr ardal wrth sgwennu nofelau ac ati ac erioed wedi clywed amdani o gwbl.

"Wedyn prynu'r gyfrol a mynd drwyddi a ffeindio bod y cymeriad ofnadwy o ddifyr a thalentog yma a dyda ni ddim wir yn ei dathlu hi. Mae hi'n gwneud hanes mewn ffordd ond 'da ni wedi anghofio amdani rywsut.

"Felly dwi mor, mor falch bod Llys Elen Egryn yn cael ei adeiladu rŵan.

"'Da ni angen ei dathlu hi yn yr ardal a thrwy Gymru i gyd achos nid yn unig mai hi oedd y ferch gyntaf i gyhoeddi cyfrol o gerddi yn y Gymraeg ond mae'r cerddi yn rhai mentrus ac yn gynnes a faswn i'n licio gweld pobl yn ymwybodol o'i gwaith ac yn darllen ei gwaith hi."

Image copyright Gwasg Honno
Image caption Fe gafodd cyfrol Elen Egryn ei chyhoeddi eto yn 1998

Prin ydi'r wybodaeth am Elen Egryn - neu Elin Evans.

Cafodd ei geni yn 1807 yn ferch i brifathro Llanegryn, Ellis Humphrey Evans, a'i wraig. Ar ôl ei magu yn y pentref ym Meirionydd symudodd i Lerpwl, ac yna i Fachynlleth.

Fe gyhoeddodd Telyn Egryn yn 1850 - carreg filltir yn hanes llenyddiaeth menywod yng Nghymru - ac ynddi mae'n trafod pynciau fel iselder, ffydd a hiraeth.

Yn ôl Manon Steffan Ross, roedd y bardd yn diodde' o iselder ac yn trafod y pwnc yn agored yn ei gwaith.

Meddai: "O'n i wastad yn meddwl bod pobl yn trin iselder a digalondid yn y cyfnod yna fetha rhywbeth i guddiad a rhywbeth i fod â chywilydd ohono, ond mae Elen yn sgwennu am hyn mewn ffordd mor agored ac wedyn yn ei gyhoeddi fo.

"Mae'n rhyfedd achos, oherwydd y cyfnod, does ganddo ni ddim lot fawr iawn o wybodaeth am Elen.

"'Da ni'n gwybod y ffeithiau moel ond sgeno ni ddim llun ohoni na dim, ond o fod yn darllen y gyfrol 'da chi wir yn meddwl bod chi'n adnabod y ferch yma a 'da chi'n gweld y pethau sy'n ei chyflyru a phethau sy'n ei brifo hefyd, mae lot o hiraeth am ei hardal a'i chartref.

"Dwi'n gweld hi mor ddewr yn ei hagwedd tuag at y digalondid yma. Does dim esboniad o pam neu oes rheswm dros y digalondid ond mae hi mor agored amdano ac o'r ffordd mae hi'n sgwennu amdano, 'da chi wir yn teimlo ei phoen.

"Roedd hi'n gobeithio bysa'r cerddi yn cyrraedd merched dosbarth gweithiol. Wnaeth hynny ddim digwydd, ond fe gafodd dderbyniad gwych."

Pynciau Cysylltiedig