Gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys

heddlu

Mae gyrrwr beic modur wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A489 rhwng Sarn a'r Ystog (Churchstoke) - ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr - tua 16:50 ddydd Mawrth.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad - rhwng car Vauxhall Astra arian a beic modur Suzuki arian a du - y tu allan i fynedfa eglwys Holy Trinity Church.

Bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a'r lle.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am unrhyw un welodd y cerbydau, neu sydd â lluniau dashcam, i ffonio 101 gyda'r cyfeirnod 249.

Pynciau Cysylltiedig