'Ysbryd Spurs fel Cymru yn yr Ewros'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ben Davies: 'Ysbryd Spurs fel Cymru yn Euro 2016'

31 Mai 2019 Diweddarwyd 07:46 BST

Bydd Ben Davies yn gobeithio chwarae rhan yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ddydd Sadwrn, wrth i'w dîm, Tottenham Hotspur, herio Lerpwl yn Madrid.

Os fydd yn llwyddo, ef fydd y pumed Cymro i ennill yn y gystadleuaeth ar ôl Gareth Bale, Ryan Giggs, Ian Rush a Joey Jones.

Wrth siarad gyda BBC Cymru, mae'r amddiffynnwr yn cymharu'r ysbryd yn y garfan i'r un yn ystod pencampwriaeth Euro 2016, pan ddaeth Cymru o fewn un gêm i gyrraedd y ffeinal.

Yn gynharach yn yr wythnos, daeth hi i'r amlwg na fydd Davies ar gael ar gyfer gemau nesaf Cymru ym Mehefin er mwyn iddo allu cael llawdriniaeth.