Glaw yn effeithio ar gêm Morgannwg yn Sussex

Marnus Labuschagne Image copyright Getty Images
Image caption Mae Marnus Labuschagne wedi cyrraedd 131 heb fod allan yn ail fatiad Morgannwg

Dim ond 21 pelawd o chwarae fu ar drydydd diwrnod gêm Morgannwg yn erbyn Sussex ym Mhencampwriaeth y Siroedd oherwydd glaw.

Gorffennodd Morgannwg ar 218 am 1 cyn i'r glaw gyrraedd erbyn amser cinio yn Hove.

Marnus Labuschagne (131 heb fod allan) a Nick Selman (64 heb fod allan) sydd wedi sgorio holl rediadau'r ymwelwyr yn yr ail fatiad.

Mae'n golygu bod Morgannwg 16 rhediad y tu ôl i Sussex gyda naw wiced yn weddill ar ddiwrnod olaf y gêm.

Pynciau Cysylltiedig