Sam Davies yn ymuno â'r Dreigiau o'r Gweilch

Sam Davies Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Sam Davies wedi ennill wyth cap dros Gymru

Mae maswr Cymru, Sam Davies wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda'r Dreigiau wedi iddo benderfynu gadael y Gweilch.

Fe wnaeth Davies benderfynu gadael y Gweilch wedi i Luke Price ailarwyddo gyda'r rhanbarth, a Gareth Anscombe ymuno o'r Gleision.

Mae Davies, 25, wedi ennill wyth cap rhyngwladol, ond roedd y diweddaraf o'r rheiny ym mis Gorffennaf 2017.

Fe wnaeth Davies sgorio 836 o bwyntiau mewn 150 gêm dros y Gweilch ers iddo wneud ei ymddangosiad cyntaf yn Ionawr 2012.

Pynciau Cysylltiedig