Batwyr yn achub gêm gyfartal i Forgannwg yn Sussex

Marnus Labuschagne Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Llwyddodd Marnus Labuschagne i gael sgôr o 182 yn ail fatiad Morgannwg

Llwyddodd Morgannwg i sicrhau gêm gyfartal yn Sussex ddydd Iau, gyda Marnus Labuschagne a Nick Selman yn achub y Cymry gyda'r bat.

Roedd y tîm cartref yn anelu am sgôr o 233 mewn 29 pelawd, ond fe wnaeth y ddau dîm gytuno ar gêm gyfartal gyda Sussex ar 47-1.

Cyn hynny roedd Morgannwg wedi cael sgôr o 466 yn eu hail fatiad, gyda Labuschagne (182) a Selman (99) yn serennu.

Daeth hynny wedi i 75 pelawd gael eu colli ddydd Mercher oherwydd glaw.

Pynciau Cysylltiedig