Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau

Mae'n anodd coelio hyn ond union wythnos sy 'na ers i Theresa May ddod allan trwy ddrws rhif deg, Downing Street a chyhoeddi ei bod am ildio awenau ei phlaid a'i llywodraeth.

Ers hynny cafwyd llanast i'r ddwy blaid fawr yn etholiadau Ewrop, dechrau syrcas etholiadol y Ceidwadwyr gyda llond gambo o ymgeiswyr yn ceisio hudo'r selogion, moelid gwaed ar yr ochor goch i bethau, ac un arolwg barn yn gosod y Lib Dems, ie'r rheiny, ar y brig.

Efallai bod honiad Harold Wilson bod wythnos yn oes mewn gwleidyddiaeth wedi troi'n ystrydeb erbyn hyn ond mae ystrydeb hefyd yn gallu bod yn wireb ar adegau ac mae hwn yn gyfnod felly.

Mae'n weddol amlwg i mi erbyn hyn ein bod ni ar ganol proses o ail-garfanu gwleidyddol gydag etholwyr yn bwrw eu pleidlais ar sail eu teimlad o hunaniaeth yn hytrach na'u dosbarth cymdeithasol. Fe gychwynnodd y broses honno ymhell cyn y refferendwm Ewropeaidd gydag 'Essex man' Margaret Thatcher yn rhagflas o'r hyn oedd i ddod ond mae labeli 'leaver' a 'remainer' wedi crisialu'r peth.

Ar un ochor i'r adwy mae pobol ifanc, trigolion y dinasoedd mawrion a graddedigion - y bobol wnaeth Theresa May eu hwfftio fel "citizens of nowhere". Ar yr ochr arall mae pobol sydd, ar y cyfan, yn hŷn, yn byw mewn ardaloedd lle nad oes 'na lawer o fewnfudwyr o dramor ac sydd wedi cwblhau eu haddysg ar ddiwedd eu dyddiau ysgol.

Fe fydd yn rhaid i'r ddwy blaid fawr newid i adlewyrchu'r realiti newydd neu ildio'u lle i bleidiau sy'n 'burach' ac yn fwy plaen eu safbwynt, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Bregsit yn Lloegr ac, o bosib, Plaid Cymru yng Nghymru.

Dydw i ddim am broffwydo beth sy'n debyg o ddigwydd. Mae bron i ganrif wedi mynd heibio ers i ni wynebu bwrlwm gwleidyddol o'r fath. Mae 'na sawl senario posib gan gynnwys gwawrio oes o wleidyddiaeth amlbleidiol a fyddai'n arwain yn anorfod ar fabwysiadu rhyw ffurf ar gynrychiolaeth gyfrannol.

A dyna i chi eironi. Gallai pleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd arwain at dranc system ddwy blaid, sydd bron yn unigryw i Loegr erbyn hyn, a throi ein gwleidyddiaeth yn rhywbeth llawer tebycach i'n cefndryd cyfandirol.