Siom tocynnau pêl-droed i'r canwr Wynne Evans

Wynne Evans yn perfformio yn agoriad stadiwm newydd Tottenham Hotspur Image copyright Reuters
Image caption Fe ganodd Wynne Evans ar faes y tîm mae'n ei gefnogi ers yn fachgen yng ngêm gyntaf Spurs yn eu stadiwm newydd

Mae'r canwr a'r cyflwynydd radio Wynne Evans wedi datgelu ei fod wedi talu miloedd o bunnau am docynnau ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr.

Yn gefngogwr Tottenham Hotspur ers yn fachgen, fe dalodd £7,000 i asiantaeth ar-lein am dau docyn ar gyfer ei hun a'i fab 14 oed, Taliesin.

Ond yna fe gafodd ebost yn dweud nad oedd y tocynnau ar gael mwyach, a bu'n rhaid iddo brynu dau docyn o'r newydd.

Dywedodd y tenor sy'n cyflwyno ar Radio Wales: "Mae'n edrych fel eu bod wedi gwerthu'r tocynnau i mi ac yna eu hailwerthu ar ôl sylweddoli bod modd cael mwy o arian amdanyn nhw.

"Roedd fy mab 14 oed yn torri calon - does dim gwybod faint yn rhagor o gefnogwyr sydd wedi eu heffeithio."

Mae'n ofni na fydd yn llwyddo i gael yr arian yn ôl, ond yn dweud nad oedd am golli cyfle i weld ei dîm yn herio Lerpwl yn Madrid nos Sadwrn.

"Ro'n i'n siomedig eithriadol ond doedd hynny ddim am fy stopio rhag mynd.

"Rwy'n cefnogi Spurs ers ro'n i'n saith oed felly mae'n gyfle unwaith mewn oes i weld fy nhîm yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr."

Fe berfformiodd y canwr ar faes Spurs ar achlysur eu gêm olaf yn White Hart Lane a chyn eu gêm gyntaf yn eu stadiwm newydd yng ngogledd Llundain.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol