Magu plant mewn pentref di-drydan

Mae Gerallt Jones o Abergeirw yn cofio'r dyddiau pan doedd gan y pentref yng Ngwynedd ddim cyflenwad trydan, pan oedd hi'n her i sychu gwallt a gwylio'r teledu, a hynny tan ddeg mlynedd yn ôl.

Mae'r tiwtor addysg yn cofio'r dyddiau heriol o fagu pedair o ferched gyda dim ond generadur i roi trydan iddyn nhw am rai oriau'r dydd, tan ddiwedd 2008.

Image copyright Gerallt Jones
Image caption Llun o'r teulu mewn priodas diweddar: Elen, Catrin, Marian, Gerallt, Megan ac Alaw

Abergeirw oedd y pentref olaf yng Nghymru a Lloegr i gael cyflenwad o drydan gan y Grid Cenedlaethol. A hithau rŵan yn ddegawd ers i'r generaduron dewi a'r trigolion 'weld y goleuni' yn barhaol, mae Gerallt Jones yn egluro sut bod trigolion yr ardal bellach yn cynhyrchu a chyflenwi trydan i'r Grid Cenedlaethol eu hunain:

Sut ydych chi'n teimlo wrth edrych yn ôl ar y cyfnod pan oeddach chi heb gyflenwad trydan drwy'r amser? Oedden nhw'n ddyddiau da?!

Yn sicr doedden nhw ddim yn ddyddiau da o ran byw bywyd ymarferol, modern ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain. Ond 'roedd rhywun yn addasu ac yn dod i arfer efo'r amgylchiadau i ryw raddau, er ei fod yn rhwystredig iawn ar brydiau.

Beth oedd y pethau anoddaf i chi fel teulu, a chithau yn dad i bedair o ferched oedd yn eu harddegau cynnar ar y pryd?

Storio bwyd mewn oergell a rhewgell oedd y cur pen mwyaf. Roedd y rhewgell yn cael ei defnyddio fel rhyw fath o oergell aneffeithiol yn yr haf, gyda'r oergell ei hun dda i ddim tan fisoedd y gaeaf.

Roedd ewythr ffeind i ni'n gadael i ni ddefnyddio rhewgell arall yn ei fferm rhyw dair milltir i ffwrdd a byddai rhywun yn mynd heibio ddigon aml i godi rhywbeth wrth basio. Anhawster arall oedd bod y siop agosaf tua chwe milltir i ffwrdd.

Y broblem fwyaf dyrys oedd y generadur yn torri i lawr. Hyd nes cael peiriannydd ac aros am ddarnau, nid oedd trydan o gwbl am ddau, dri neu bedwar diwrnod.

Roedd y merched yn eu harddegau ar y pryd ac eisiau defnyddio sychwr gwallt neu tongs ar wahanol adegau o'r dydd ac yn cwyno bod dim trydan - roedd hwn yn gyfnod o sialens mawr iddynt!

Roedd hyd yn oed gwylio'r teledu yn her, ryw awr neu ddwy y noson a dyna ni.

Beth yw eich atgofion eich hun o dyfu fyny heb drydan?

Fe'm ganwyd yn Abergeirw yn nechrau'r 1960au a thyfais i fyny efo generadur a dim mains. Roedd fy nghyfoedion yn yr ysgol yn methu credu bryd hynny nad oedd gennym mains a phan oeddem yn magu teulu ein hunain yn ardal Trawsfynydd yn y 1990au ychydig iawn fyddwn wedi ddychmygu y byddai fy mhlant fy hun yn gorfod ail-adrodd yr hanes.

Pan symudodd fy mam o'r hen gartref yn Abergeirw fe gytunon ni i'w brynu, a symudon ni, fel teulu, yno i fyw yn 2005.

Disgrifiwch y frwydr o gael rhwydwaith drydan i Abergeirw.

Dwi'n cofio ymweld â'r trigolion yn 2003 a chael siom nad oedd gan ambell un unrhyw ddiddordeb i'w weld yn y cynllun, ond rhyw flwyddyn yn ddiweddarach roedd mwy o ddiddordeb ac Undeb Amaethwyr Cymru Dolgellau, yn fodlon ein cefnogi.

Image caption Bu Gerallt Jones yn ymgyrchu am flynyddoedd i gael cyflenwad trydan i Abergeirw, gan gyfrannu i nifer o raglenni newyddion ar y pryd

Creodd hynny fomentwm a arweiniodd at gyfarfod cyhoeddus ac erbyn diwedd y cyfarfod hwnnw ffurfiwyd Menter Egni Abergeirw (dwi'n dal yn gadeirydd a thrysorydd y fenter).

Wedyn daeth y gwaith caib a rhaw - a fy ngwraig Marian y cyd-ysgrifennydd a Margaret ein cymydog â'r gwaith mwyaf diflas a di-wobr, sef ceisio am grantiau a llenwi ffurflenni di-ri.

Y cynllun gwreiddiol oedd bod y deg cartref yn amodi i gyfrannu £5,000 yr un a cheisio am grantiau i gyrraedd y pris gwreiddiol o £157,685.

Roedd sawl blwyddyn o ymgyrchu a gwaith caled o geisio codi arian o wahanol ffynonellau i ddilyn.

Ym mis Tachwedd 2008, daeth y diwrnod mawr pan aeth Abergeirw yn live, a chafwyd yr agoriad swyddogol gan Elfyn Llwyd rhyw wythnos cyn Nadolig 2008.

Yng ngoleuni'r argyfwng ariannol byd-eang yn 2007-08, dydw i ddim yn credu y bydden ni wedi llwyddo i gael y trydan yn nes ymlaen, roedd un ffenest fach gul a ymddangosodd, fe gostiodd lawer mwy i'r trigolion na gynlluniwyd, ond go brin byddai neb erbyn heddiw yn barnu nad oedd o werth y buddsoddiad yn y tymor hir.

Image copyright Gerallt Jones
Image caption Marian a Gerallt Jones

Go brin y bysa chi wedi dychmygu'r diwrnod yma rŵan lle bod Abergeirw yn cyflenwi trydan i'r Grid Cenedlaethol?!

Fe allwn fod wedi rhagweld cyflenwi trydan i'r grid drwy baneli solar ar y to, er enghraifft; ond fyddwn i byth wedi rhagweld Abergeirw yn cynhyrchu mwy o drydan na mae'r defnyddwyr i gyd yn ei ddefnyddio!

Mae dau gynllun tyrbin dŵr 34KW wedi dechrau cynhyrchu ar ddwy fferm yn y cwm. Maent yn ymuno efo cynllun ar fferm arall oedd eisoes yn cynhyrchu. Mae hyn yn golygu pan mae digonedd o ddŵr yn y nentydd bod Abergeirw yn gallu cynhyrchu dros 100KW i'r grid, gyda llai na 16KW ar gyfartaledd yn cael ei ddefnyddio gan y cartrefi.

Sut fath o system o greu trydan ydi o?

Mae unrhyw ddŵr mewn nant uwchlaw rhyw lefel penodedig yn mynd o'r nant i lawr pibell blastig serth. Ar waelod y bibell mae tyrbin olwyn-Pelton yn troi generadur trydan mewn cwt bychan.

Mae'r dŵr wedyn yn cael ei sianelu yn ôl i'r nant - mae'n gynllun gwyrdd a charbon-isel iawn ac nid oes llygredd sŵn chwaith.

Mae'n cynnig incwm o arallgyfeirio i ffermwyr defaid, ac oherwydd y feed in tariff sy'n cael ei warantu gan y llywodraeth am 20 mlynedd, mae'r banciau yn fodlon cefnogi'r ffermwyr hyn, a benthyg yr arian iddynt ar gyfer costau pur uchel i'w hadeiladu yn y lle cyntaf.

Felly, golau cannwyll ynteu golau bylb!? Oedd 'na ramant yn perthyn i'r caledi tybed?

Petaech yn gofyn i bobl a fagwyd yn Abergeirw yn ystod y 1950au ymlaen (ac sydd wedi gadael bellach), os buasent yn hoffi symud yn ôl i'r cwm i fyw pan nad oedd mains yno, byddai'r ymateb yn negyddol iawn.

Mae hi bellach yn fwy hyfyw i'r cwm fedru denu'r ifanc i aros neu ddychwelyd.

Ar ôl deud hynna, mae ffactorau newydd rŵan, megis safon band-llydan, sy'n ffactor negyddol mewn ardaloedd cefn gwlad tebyg i ni.

Roedd Abergeirw yn arfer bod yn un o'r mannau distawaf yn ystod y dydd yn y dyddiau pan nad oedd mains. Ond pan fyddai'n dechrau nosi, roedd y llygredd sŵn mwyaf digalon i'w glywed, wrth i wahanol eneraduron danio yma ac acw a'r sŵn yn teithio ar y gwynt filltir a mwy.

Rwy'n hoffi mynd allan i'r ardd am bum munud ar noson glir yn y gaeaf i edrych ar y sêr, gan mai i astudio astroffiseg yr es i i'r brifysgol yn Llundain, ond byddai sŵn byddarol y generadur yn fy ngyrru yn ôl i'r tŷ mewn dim amser.

Ond dim bellach, ar fin nos mae'r hen gwm yn ôl yn rhydd o seiniau di-ddiwedd mecanyddol dyn, ac mae sŵn melys afon Mawddach yn rheoli'r cwm unwaith eto.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig