Dyddiadur D-Day: Un milwr ‘lwcus’

Image caption Y milwr ifanc Clive Birtwistle

Roedd Clive Birtwistle yn ystyried ei hun yn lwcus i oroesi D-Day. Roedd y milwr ifanc o Middlesex yn 19 mlwydd oed pan ymunodd â'r ymladd ym Mehefin 1944.

Bu'n cadw dyddiadur o'r cyfnod, ac mae ei fab, y newyddiadurwr o Aberystwyth Meic Birtwistle, yn olrhain ei hanes i Cymru Fyw wrth nodi 75 mlynedd ers D-Day:

"Roedd Dad o hyd yn teimlo'n lwcus iawn fod ei danc ddim yn gweithio a fod rhaid iddo fynd nôl i'r traeth lle roedd 'na weithdy i drwsio'r tanc," meddai Meic am y diwrnod pan ddinistrwyd tanc ei dad wrth iddo yrru i Tilly Sur Seulles yng ngogledd Ffrainc ar 10 Mehefin 1944.

Cafodd tanc y trwper ifanc ei fwrw gan shell Almaenwr oedd yn cuddio tu ôl i garreg bedd mewn mynwent ar ochr y ffordd. Roedd y tanc ar dân ond drwy lwc dim ond cit y milwr oedd wedi ei ddinistrio ac ni chafodd ei anafu.

Image caption Bathodyn Clive Birtwistle o'r Royal Armoured Corps

Bu'n rhaid i'r sgwadron symud 'mlaen gyda'r ymosodiad - ond heb Clive Birtwistle a'i danc a ddifethwyd.

Meddai Meic: "Tra fod Dad yn aros ar y traeth i'w danc gael ei drwsio cafodd ei gatrawd ei amgylchynu gan yr Almaenwyr yn Villers Bocage .

"Roedd gan y gelyn Tiger tanks anferth, pwerus dros ben a dinistrwyd llwyth o danciau catrawd Dad, gan gynnwys ei sgwadron e.

"Cafodd lot eu cipio a lot eu lladd. Dw i'n cofio Dad yn sôn am Normandi un tro, gan ddisgrifio'r cyrff ym mhob man a phryfaid ym mhob man achos y cyrff.

"Roedd yr ymladd mor wael doedd catrawd Dad ddim yn bodoli mwyach. Roedd Dad yn ystyried ei hun yn lwcus ond yn meddwl am ei ffrindiau.

"Mae Villiers Bocage yn cael ei ystyried yn frwydr arwyddocaol a chafodd yr Almaenwr wnaeth arwain yr ymosodiad fedal gan Hitler am ei waith."

Dyddiadur milwr

Image caption Dyddiadur Clive Birtwistle yn disgrifio dyddiau cynnar Brwydr Normandi

Fe wnaeth Clive Birtwistle gofnodi llawer o'r hanes a'r digwyddiadau yn ei ddyddiadur, gan gynnwys diwrnod yr ymosodiad ar y tanc:

'My commander, Sergeant Cotching spotted some activity in a graveyard and instructed the gunner, Tpr Livingstone, to fire the 2 pounder. The first shot destroyed a tombstone revealing an anti-tank gun that promptly fired back and struck the tank's transmission casing.

'First I knew of this was a splinter slightly cutting my hand and my bedding in the empty co-driver seat catching fire. It was a flash fire and promptly extinguished. The tank was still working so I reversed back down the bank out of the line of fire. So quickly that the Commander demanded what I was up to. He did not know that we had been hit.'

D-Day

Fyddai Clive Birtwistle ddim wedi bod yn y tanc o gwbl os na fyddai wedi goroesi D-Day ar 6 Mehefin 1944.

Roedd e a'i sgwadron mewn cwch yn y môr ger Normandi yn aros i ymuno â'r ymladd ond rhwystrwyd nhw gan y nifer o gerbydau ar y traethau eisoes.

Image caption Paratoadau D-Day: Diwrnodau Clive Birtwistle ar arfordir Normandi

Felly y diwrnod wedi D-Day ymunodd Clive Birtwistle gyda'r ymgyrch ac mae ei ddyddiadur yn disgrifio:

'At first light, 7 June, we beached at Le Hamel and drove the tanks down the ramp into five feet of rough sea. It was chilling cold and dull, but firing was sporadic and not aimed at us. In fact the beach had been cleared but there were scattered abandoned tanks and other vehicles. Some had been hit, others waterlogged and there were small groups of dejected Germans under guard.

'Our landing went smoothly but the tank with the balloon was carried out to sea owing to the extra buoyancy. We watched in dismay as the RAF men desperately tried to cut the balloon free, but when they succeeded the tank promptly sank - our first casualty. Quick thinking Navy men rescued the men.'

Ar y ffrynt

Image caption Clive Birtwistle yn eistedd ar ben y tanc (chwith) gyda'i gyd-filwyr

Bu Clive Birtwistle ar y ffrynt yng nghanol yr ymladd o Normandi i Hamburg tan ddiwedd y rhyfel fel aelod o sgwadron reconnaissance yr adran arfog.

Wedi'r rhyfel, priododd Morfudd Thomas o Landysul a mynd nôl i weithio fel newyddiadurwr i'r Westminster Press yn Llundain.

Ar ôl marwolaeth Clive yn 2000, daeth Meic o hyd i'w ddyddiaduron.

Meddai Meic: "'Doedd fy nhad ddim yn siarad am y rhyfel o gwbl.

"'Doedd e ddim yn teimlo fod e wedi 'neud unrhyw beth arbennig o gwbl.

"Roedd yr holl brofiad wedi'i wneud e'n berson anhygoel o gryf."

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau Cysylltiedig