Ymchwiliad babanod Caer: Rhyddhau dynes ar fechnïaeth

Ysbyty Countess of Chester Image copyright Dennis Turner/Geograph
Image caption Mae swyddogion wedi bod yn ymchwilio i 17 marwolaeth yn yr uned newydd enedigol rhwng mis Mawrth 2015 a Gorffennaf 2016

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaethau babanod yn Ysbyty Iarlles Caer wedi rhyddhau dynes ar fechnïaeth.

Cafodd Lucy Letby, sy'n weithiwr gofal iechyd proffesiynol, ei harestio ddydd Llun ar amheuaeth o lofruddio wyth o fabanod, a cheisio lladd naw arall yn Ysbyty Iarlles Caer.

Fe gafodd y ddynes ei harestio yn wreiddiol ym mis Gorffennaf y llynedd.

Mae Heddlu Sir Caer bellach wedi cadarnhau bod Ms Letby wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Mae swyddogion wedi bod yn ymchwilio i 17 marwolaeth yn yr uned newydd-enedigol rhwng mis Mawrth 2015 a Gorffennaf 2016.

Fe wnaeth yr heddlu ddweud bod teuluoedd o ogledd Cymru yn rhan o'r ymchwiliad gwreiddiol, ond ni allant gadarnhau faint o'r marwolaethau oedd yn ymwneud â theuluoedd o Gymru.

Mae rhieni pob un o'r babanod yn cael eu diweddaru a'u cefnogi.

Mae'r ymchwiliad yn parhau.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol