'Dim casgliad pendant' beth achosodd ffrwydrad mewn tŷ

Llanbradach
Image caption Cafodd rhyw 25 o ymladdwyr tân eu danfon mewn ymateb i'r ffrwydrad

Mae ymchwiliad i achos ffrwydrad mewn tŷ yn Llanbradach, ger Caerffili wedi methu â dod i gasgliad.

Bu'n rhaid i bump o bobl gael triniaeth ysbyty yn dilyn y ffrwydrad ar ystâd Dan-y-Darren ar 11 Mehefin y llynedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: "Does neb wedi eu harestio ac mae ymchwiliadau wedi methu â dod i'r casgliad a oedd hyn yn dân bwriadol ai peidio.

"O ganlyniad, mae'r ymchwiliad wedi dod i ben."

Roedd profion cychwynnol yr heddlu wedi awgrymu taw deunydd o fewn yr adeilad wnaeth achosi'r ffrwydrad.

Straeon perthnasol