Sir Derby yn rhoi pwysau ar Forgannwg cyn y diwrnod olaf

Billy Godleman Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Llwyddodd Godleman i gyrraedd sgôr o 211 heb fod allan

Fe lwyddodd Billy Godleman a Tom Lace gael y gorau ar fowlwyr Morgannwg ar drydydd diwrnod eu gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd i roi Sir Derby ar y blaen cyn y diwrnod olaf.

Fe orffennodd yr ymwelwyr ar sgôr o 504-4, 110 rhediad ar y blaen i Forgannwg.

Llwyddodd Godleman i gyrraedd sgôr o 211 heb fod allan tra bod Lace wedi cael 143 rhediad.

Bydd Sir Derby nawr yn gobeithio ychwanegu at eu cyfanswm ddydd Gwener cyn ceisio bowlio Morgannwg allan cyn diwedd y dydd i osgoi gêm gyfartal.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol