'Cyfle arall i fwynhau bywyd' ar ôl derbyn 18 uned o waed

michelle

Mae 14 Mehefin yn nodi diwrnod cenedlaethol rhoi gwaed, gyda'r amcan o godi ymwybyddiaeth ynglŷn â phwysigrwydd y weithred a diolch i'r rhai sy'n gwneud.

Rhywun sydd wedi elwa o dderbyn gwaed mewn sefyllfa argyfyngus yw Manon Elis o Gaernarfon.

Yn wyneb cyfarwydd i lawer gan iddi fod ar y rhaglen boblogaidd Rownd a Rownd am 17 mlynedd, mae Manon bellach yn rhedeg siop yng nghanol tref Caernarfon.

Roedd Manon yn siarad gyda Rebecca Hayes ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru am ei phrofiadau a'r pwysigrwydd o roi gwaed.

"Mae jest clywed am unrhyw un yn mynd i roi gwaed, yn enwedig ei roi yn rheolaidd, yn newyddion hyfryd," meddai Manon.

"Be' dwi isio ydi bod o'n mynd yn rhywbeth mae pobl yn parhau i wneud, a bod o'n rhywbeth naturiol i'w wneud. O'n i fy hun yn gwneud pan o'n i yn y coleg, ac wrth gwrs pan fo bywyd yn mynd yn brysurach o'n i'n dweud 'O 'nai beidio gwneud tro 'ma, mi wnâi tro nesa'...

"Ond wrth gwrs, ers cael gwaed 'nath achub fy mywyd i naw mlynedd yn ôl, yr eironi mawr ydi mod i ddim yn cael rhoi gwaed rŵan!"

Image caption Manon yn ei dyddiau ar y gyfres Rownd a Rownd

Naw mlynedd yn ôl i wythnos diwethaf aeth Manon drwy brofiad erchyll wrth roi genedigaeth i'w merch, Cadi.

"O'n i'n disgwyl fy mabi cyntaf, a doedd 'na ddim pryderon. Es i 'chydig dros wythnos dros yr amser, a dwi'n cofio dau ddiwrnod cyn i Cadi gyrraedd o'n i'n desbryt i gael y babi allan ac yn powerwalkio ar ben Moel Tryfan, o'n i'n fawr ond o'n i'n reit ffit.

"Aethon ni i Ysbyty Gwynedd pan ddechreuodd pethau ddigwydd, ac mi roedd o'n llafur eithaf caled, ond 'rargol mae 'na lot o ferched yn cael hynny. Ar ôl rhyw 12 awr oedden nhw'n poeni bod curiad calon Cadi yn mynd yn beryglus o isel."

Triniaeth frys

"Roedden nhw'n poeni rhag ofn bod y llinyn o gwmpas ei gwddw hi felly fe wnaethon nhw benderfynu rhoi caesarean brys i fi.

"Aeth y caesarean yn iawn ac fe ddoth Cadi bach allan yn berffaith gan grio a ballu, sy'n grêt.

"Wedyn, aeth pethau o'i le ar ôl rhyw 20 munud. Fues i'n cael cydyls efo Cadi, a hyd heddiw dwi ddim yn siŵr os mai fi 'nath lewygu neu os roddon nhw fi i gysgu achos nes i jest dechrau gwaedu. Oedd Emlyn y gŵr yn dweud nad jest gwaedu o'n i, oedd o fatha tap. Roedd 'na waed ym mhobman, a'r peth dwytha dwi'n cofio ydi'r doctor yn gweiddi "I want three units!"

"Deunaw awr yn ddiweddarach nes i ddeffro yn yr uned gofal dwys, a nes i checkio bod Cadi bach yn iawn - odd hi'n champion. Yn amlwg o'n i 'chydig bach yn shocked achos o'n i wedi bod drwy bethau mawr, ac er mwyn achub fy mywyd i roedd rhaid iddyn nhw berfformio hysterectomy.

Image caption Manon gyda'i phlant, Cadi a Lois

"O siarad efo'r gŵr a fy rhieni, a fy chwaer oedd wedi dreifio fyny o Gaerdydd, a lot o fy ffrindiau, roedden nhw mewn gwirionedd wedi cael cyfle i ddweud ta-ta wrtha i, achos doedd y gwaedu ddim yn stopio.

"Gan gynnwys y caesarean ges i dair triniaeth, a diolch byth fe lwyddodd y drydedd driniaeth i stopio'r gwaedu."

'18 uned o waed'

"Ond mae fy niolch i i Mr Larsen, y llawfeddyg, a'r holl nyrsys a phawb yn Ysbyty Gwynedd. Ac medrais i ddweud diolch iddyn nhw rywsut - dim i bob un yn unigol, ond pan wnaethon ni briodi'r flwyddyn wedyn, yn lle cymryd pres i ni'n hunain 'nathon ni godi arian i'r uned yno.

"Ond y pwynt ydi, 'nath bawb a helpodd fi'r diwrnod hwnnw - y llawfeddyg a'r nyrsys a'r boi roddodd y cyffuriau i mi - ddweud 'cofia ddweud wrth dy deulu a ffrindiau i roi gwaed, achos heb y gwaed yna ar y diwrnod (18 uned!) fysat ti ddim yma.'

"Byswn i wedi marw, faint gymaint mor wych oedd y llawfeddyg yn Ysbyty Gwynedd, a'r peiriannau gorau, heb y gwaed yna.

"Ella ddaeth y gwaed gan bobl dwi'n 'nabod! Hynny ddaeth yn yr wythnosau i ddilyn - o'n i eisiau gwybod pwy oedd yr 18 person (achos gewch chi ddim rhoi mwy nag uned ar y tro), felly mae 'na 18 person ga i byth ddiolch iddyn nhw, a chai byth wybod pwy 'di nhw.

Image caption Mae Cadi bellach yn naw oed, ac Lois yn chwech

"Gallwch chi fod angen gwaed am nifer o resymau, fel damwain beic neu rywbeth. Ond beth mae hyn yn dangos ydi pa mor sydyn all rywbeth fynd o'i le - gall fod yn ddamwain, gallech chi fod yn yr ysbyty yn barod, neu falle bo' chi jest yn wan ac angen y gwaed.

"Ond 'da chi, na'ch teulu na ffrindiau byth yn mynd i wybod pryd 'da chi angen y gwaed 'na. Os di hynny'n helpu un person arall... ond hefyd ei wneud yn gyson, bod o'n dod yn rhan o'ch bywyd."

Mae Manon yn benderfynol o ledaenu'r neges am y pwysigrwydd o roi gwaed.

"Dyna'r cyfan alla i wneud. Os oes 'na rywun yn gofyn i fi am siarad am roi gwaed dwi'n gwneud bob tro. Dim jest rhoi gwaed ar gyfer y person yna ydych chi, ond i deulu a ffrindiau'r person 'na hefyd.

Image caption Manon gyda'i gŵr, Emlyn, a'r plant

"Dwi ddim yn mynd i ddweud clwydda' a dweud bod o'n rhywbeth pleserus i neb wneud - pan o'n i'n rhoi yn y coleg o'n i'n methu hyd yn oed sbïo ar y gwaed, oedd rhaid fi sbïo i ffwrdd. Dwi ddim yn redwr, ond allai feddwl am redeg 10k lle mae 'na deimlad braf ar y diwedd - dwi 'di gwneud rhywbeth da heddiw.

"Dim achub fy mywyd i ar y dydd yn unig wnaethon nhw... maen nhw 'di rhoi bywyd i fi. Ocê ges i hysterectomy, ac oherwydd hynny wnaethon ni fabwysiadu, ac wedi cael yr hogan fach fwyaf sbeshial yn y byd, Lois, sy'n chwech oed ac yn chwaer fach hyfryd i Cadi.

"Dwi'n mwynhau bywyd, ac yn ddiolchgar o'r cyfle arall 'ma dwi 'di cael i fwynhau bywyd."


Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig