Lle oeddwn i: Mair Tomos Ifans a Rwtsh Ratsh Rala Rwdins

Eleni mae Theatr Arad Goch yn dathlu 30 mlynedd ers ei sefydlu. I nodi'r achlysur mae'r cwmni wedi mynd â'r sioe gyntaf wnaethon ni ei chynhyrchu, sef Rwtsh Ratsh Rala Rwdins, ar daith unwaith eto o gwmpas theatrau Cymru.

Bu Cymru Fyw yn sgwrsio gyda'r actor Mair Tomos Ifans a oedd yn rhan o'r sioe wreiddiol i glywed ei hatgofion hi o'r cyfnod hwnnw:

Image caption Mair Tomos Ifans yn ei het Rala Rwdins

Be' dw i'n ei gofio fwya' ydy'r broses o greu'r sioe. Roedd Angharad Tomos [awdur y gyfres o lyfrau Gwlad y Rwla] wedi dod at Arad Goch a oedd newydd ei sefydlu drwy uno Theatr Crwban, o'n i'n aelod ohono fo, a chwmni Un Dau Tri.

Dw i'n cofio Angharad yn dod i weithio efo ni ac yn sôn am y seicoleg tu ôl i'r cymeriadau ac yn esbonio pam ei bod hi wedi penderfynu ar y cymeriadau a sut. Er enghraifft, roedd hi'n dweud fod Strempan yn debyg iawn i Margaret Thatcher ar y pryd!

Image copyright Keith Morris
Image caption Rala Rwdins, Rwdlan a'r Dewin Dwl yn y sioe wreiddiol yn 1989

Roedden ni'n edrych ar y lluniau ac roedd Jeremy [Turner, y cyfarwyddwr] wedi rhwygo'r lluniau allan o'r llyfrau i gyd, oedd yn bechod garw. Ond roedd y lluniau 'ma i gyd wedi'u sticio ar hyd y stiwdio i fyny yn Theatr y Werin.

Roedden ni wedyn yn trïo ymgorffori'r lluniau mewn ystumiau corfforol ac felly fe wnaethon ni greu'r cymeriadau - o'r ystumiau yn y lluniau ac wedyn datblygu'r lleisiau.

Drwy hyn i gyd, roedd Angharad yn y stiwdio efo ni yn nodi pethau i lawr ac yn datblygu'r stori mewn ffordd.

Dw i'n cofio sylwi arni hi yn gorwedd ar ei chefn ar fwrdd a'i thraed hi i fyny ar wal... dyna be' ydy cyfrinach Angharad, nad ydy hi erioed wedi anghofio sut i fod yn blentyn, a dw i'n meddwl fod hynny'n dod drosodd yn y stori ac yn y cymeriadau.

Image copyright Keith Morris
Image caption Mair Tomos Ifans fel Rala Rwdins yn 1989 gyda Mari Rhian Owen yn rhan Rwdlan

Dw i'n meddwl ein bod ni wedi agor y sioe yn Eisteddfod yr Urdd, yng Nghefneithin, yn Ysgol Maes yr Yrfa. Dw i'm yn siŵr os oedd Nigel Owens, y dyfarnwr, yn gweithio yn yr ysgol ar y pryd. Dw i'n cofio bod 'na ofalwr ifanc yno. Ond dw i ddim yn siŵr os mai fo oedd o!

Wedyn, aethon ni ar daith go hir. Mi oedd hi'n braf ac yn boeth. O'n i'n chwarae rhan Rala Rwdins, Ceridwen a Strempan felly roedd yr haenau 'ma o wisgoedd, un ar ben y llall gen i achos fy mod i'n gorfod newid mor sydyn.

Dw i'n cofio mi golles i lot fawr o bwysau yn ystod y daith, stôn a hanner os dwi'n cofio'n iawn!

Rala Rwdins heddiw

Image copyright Keith Morris
Image caption Cast newydd ond yr un hen gymeriadau hoff

Mae plant yn dal i ymateb yn union yr un fath i'r cymeriadau achos plant ydy plant. Yn enwedig mewn ysgolion sy'n defnyddio'r system dysgu darllen Rala Rwdins. Nid dim ond y llyfrau bach sgwâr i ddarllen i blant sy 'na bellach. Mae 'na gyfres gyfan o themâu. Gall y cyfnod sylfaen wneud blwyddyn gron gyfan a mwy o Rala Rwdins. Felly mae'r plant yn yr ysgolion hynny wedi'u trwytho, dw i'n meddwl.

Dw i'n meddwl fod apêl y cymeriadau'n oesol oherwydd bod y plant yn gallu gweld nhw'u hunain ynddyn nhw. Maen nhw'n gallu gweld pobl maen nhw'n 'nabod, boed yn fam neu dad, neu Mrs Jones sy'n eu dysgu nhw neu bwy bynnag.

Mae'r elfennau yna o'n cymeriadau ni i gyd yng nghymeriadau Gwlad y Rwla. Ac mae o'n gwbl Gymreig. Nid fersiwn Gymraeg o gymeriadau eraill ydy cymeriadau Gwlad y Rwla. Cymraeg ydy iaith Gwlad y Rwla o'r dechre a dw i'n meddwl bod hynny mor mor bwysig i blant Cymru.

Hefyd o ddiddordeb: