ACau yn 'gwrthod' cefnogi rheolau iaith ym maes iechyd

iechyd Cymraeg Image copyright Llywodraeth Cymru
Image caption Mae'r rheoliadau yn ceisio annog defnydd o'r Gymraeg mewn meddygfeydd, deintyddfeydd ac mewn optegwyr

Mae grŵp o Aelodau Cynulliad yn dweud na allent gefnogi rheolau newydd ar y defnydd o'r iaith Gymraeg mewn gofal iechyd oherwydd na chafwyd digon o amser i'w craffu.

Mae'r pwyllgor yn dweud bod methiant Llywodraeth Cymru i ganiatáu digon o amser yn "fethiant difrifol".

Yn ôl adroddiad y pwyllgor, mae angen i Lywodraeth Cymru weithio tuag at sicrhau fod gan bobl fynediad at wasanaethau iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd y pwyllgor yn eu hadroddiad, er eu bod yn "gefnogol iawn o unrhyw ymdrech - a phob ymdrech - i gynyddu'r ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg, ni allwn gymeradwyo'r rheoliadau hyn gan na fu digon o amser i ymgynghori arnynt na chraffu arnynt yn iawn".

Mae'r rheoliadau yn ceisio annog defnydd o'r Gymraeg mewn meddygfeydd, deintyddfeydd ac mewn optegwyr.

Roedd y pwyllgor yn rhanedig ar y cwestiwn o ddiddymu'r rheoliadau, ond cytunodd yr holl Aelodau y dylid diwygio'r Rheoliadau yn dilyn ymgynghoriad llawn.

Y rheoliadau:

  • Rhoi gwybod i'r Bwrdd Iechyd Lleol am y gwasanaethau maent yn fodlon eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg;
  • Sicrhau bod fersiwn Gymraeg o unrhyw ddogfen neu ffurflen a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ar gael i gleifion a/neu aelodau'r cyhoedd;
  • Arddangos testun yn Gymraeg ac yn Saesneg ar unrhyw arwydd neu hysbysiad newydd sy'n ymwneud â'r gwasanaeth a ddarperir;
  • Annog siaradwyr Cymraeg i wisgo bathodyn, a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol, i ddangos eu bod yn gallu siarad Cymraeg;
  • Annog y rhai sy'n darparu gwasanaethau i ddefnyddio gwybodaeth a/neu fynd i ddigwyddiadau a chyrsiau hyfforddi a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol er mwyn iddynt ddatblygu ymwybyddiaeth o'r Gymraeg (gan gynnwys ymwybyddiaeth o'i hanes a'i rôl yn niwylliant Cymru) a dealltwriaeth o sut gellir defnyddio'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau;
  • Annog y rhai sy'n darparu gwasanaethau i gadarnhau a chofnodi dewis iaith o ran y Gymraeg a'r Saesneg a fynegwyd gan y claf neu ar ran claf.

Yn ôl yr adroddiad, mae cyrff sy'n cynrychioli gweithwyr iechyd proffesiynol o blaid cwrdd ag anghenion cleifion i gyfathrebu yn eu hiaith eu hunain, ond mae ganddynt bryderon ynglŷn â'r gost a'r sgil-effaith bosib o'r rheoliadau.

Dywedodd yr adroddiad, bod y gweithwyr hyn yn pryderu am y ffaith y "gallai'r rheoliadau godi disgwyliadau cleifion ac y gallent atgyfnerthu'r canfyddiad bod angen i weithwyr proffesiynol siarad Cymraeg er mwyn gweithio yng Nghymru.

"Gall hyn, yn ei dro, atal gweithwyr meddygol proffesiynol y mae mawr eu hangen rhag gweithio yng Nghymru."

Clywodd y pwyllgor gan Colin Nosworthy, o Gymdeithas yr Iaith, a gododd bryder ynglŷn â'r ffaith bod 'na ormod o bwyslais ar farn cyrff proffesiynol, yn hytrach na'r farn ymysg defnyddwyr.

Dywedodd bod "y rheoliadau yn llawer rhy wan i yrru gwelliannau o ddifri o ran gwasanaethau Cymraeg".

'Cam ymlaen'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Cafodd y rheoliadau eu cyflwyno i gyd-fynd â gweithdrefnau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Mae hyn (y rheoliadau) yn gam ymlaen wrth ddatblygu gwasanaethau iechyd cyfrwng Cymraeg... rydyn ni wastad wedi nodi y bydda ni'n adolygu effaith a gweithrediad y rheoliadau."

Mae Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd wedi cyflwyno cynnig i ddirymu'r rheoliadau.

Bydd y cynnig hwn yn cael ei drafod ar 19 Mehefin 2019.

Straeon perthnasol