Ai polisïau neu bersonoliaeth sy'n ennill etholiad?

guto harri

Mae'r ras ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol yn cyrraedd ei therfyn. Boris Johnson a Jeremy Hunt yw'r ddau ymgeisydd yn y rownd derfynol a byddant yn ceisio ennill cefnogaeth ymysg aelodaeth y blaid dros y mis sydd i ddod er mwyn cyrraedd swyddfa'r Prif Weinidog.

Ond gyda'r holl sylw yn cael ei roi ar garisma a chyfathrebu, ydy manylder polisïau yn bwysig yng ngwleidyddiaeth bellach?

Rhywun sydd wedi bod yn arsylwi gwleidyddion ers blynyddoedd yw Guto Harri, cyn-newyddiadurwr y BBC, a chyn-bennaeth cyfathrebu i swyddfa Boris Johnson tra roedd yn Faer Llundain.


Er i mi astudio gwleidyddiaeth, gohebu arno a gweithio'n glos gyda'r gŵr sydd nawr ar flaen y ras i fod yn Brif Weinidog Prydain, mae yna ddau beth sy'n llywio fy nehongliad i o ddatblygiadau yn fwy na dim.

Greddf sydd gryfaf, a dwi'n ddigon hen a hyll bellach i drystio be' dwi'n deimlo yn fy esgyrn.

Ond mae gen i fy "grŵp ffocws" unigryw hefyd. Ddwywaith y mis, am 12 awr o shifft, ers rhyw bum mlynedd bellach, dwi'n gwirfoddoli gyda'r RNLI - fel aelod o'r criw yn un o'r gorsafoedd prysuraf sydd ganddyn nhw - ar y Tafwys.

Dyw'r iaith ddim wastad yn lân, a dyw'r ddealltwriaeth ddim wastad yn ddwfn, ond mae rhai o staff llawn amser y mudiad arwrol yma yn dda iawn am roi ei bys ar broblem.

Brechdan cig moch

Un ohonyn nhw - dyn dewr a doeth ond di-addysg ar gyflog isel - eglurodd wrtha i'n gynnil pam bod dim gobaith gan yr arweinydd Llafur dwetha', Ed Miliband, o apelio at werin gwlad fel fe.

"All I know, Guto, is that he can't eat a bacon sandwich and he shafted his own brother".

Mor syml â hynny. Gallaf glywed sylwebwyr mawreddog gyda'u teitlau crand a'i llwyfannau rheolaidd yn arswydo. Mor arwynebol. Mor hurt. Mor annheg.

Image copyright Jeremy Selwyn/Evening Standard
Image caption Ed Miliband a'r frechdan cig moch a achosodd gymaint o niwed i'w ymgyrch

Ond nid cyfeirio at ennyd anffodus pan aeth camera yn rhy agos at geg y Milliband ifancaf yr oedd e ond gwneud pwynt craff a chynnil sy'n bwysicach na manylion unrhyw bolisi cymhleth.

Nid problem delwedd oedd hon ond problem foesol a chreiddiol - dyn yn esgus ei fod yn rhywbeth nad ydoedd er mwyn denu pleidleisiau.

I'ch atgoffa, roedd Ed Miliband yn Iddew deallusol, dosbarth canol o gartref breintiedig yng ngogledd Llundain. Doedd porc ddim ar fwydlen ei fagwraeth, fwy nad yw canu Swing Low yn repertoire cefnogwyr rygbi Cymru. Pam esgus felly ei fod e?

Gwleidyddion cefnog

Hanfod apêl Nigel Farage - er gwell ac er gwaeth - yw nad yw'n celu'r ffaith ei fod o gefndir cyfforddus, wedi ei addysgu yn breifat, oedd wrth ei fodd yn y Ddinas yn ystod cyfnod mwyaf afradlon y sector ariannol.

Felly hefyd y dyn sydd nawr i weld ar drothwy 10 Downing Street - yn anterth ei boblogrwydd. Fe glywes i Boris yn parablu Lladin a Groeg yn yr East End, a phawb wrth ei bodd.

A'r gwyn gan amlaf am ei gaffes oedd rhagdybiaeth na ddylai gwleidydd pwyllog ateb cwestiwn yn onest, na dweud beth sydd wir ar ei feddwl.

Gwendid mwyaf Boris erbyn hyn yw bod pobl yn amau bod hynny wedi newid - a'i fod fel pob gwleidydd arall bellach yn dweud beth mae'r mwyafrif perthnasol eisiau ei glywed nid angen ei glywed.

Image copyright Leon Neal
Image caption Cafodd Guto ei benodi yn bennaeth cyfathrebu yn swyddfa Boris Johnson yn 2008, ac roedd yn y swydd tan 2012

Does neb wedi cyhuddo Prif Weinidog Cymru o hynny, ac mae diffuantrwydd Mark Drakeford i'w ganmol, wrth gwrs. Dyw e ddim 'chwaith yn debyg o anghofio man-fanylion unrhyw bolisi, ac mae'n amlwg yn drwyadl yn ei waith cartref.

Ond mae angen cymeriad, egni, swyn, cyfaredd, cysondeb a'r gallu i wneud penderfyniad ar arweinydd da. Dyw gwario £44 miliwn o'n harian prin ni, drethdalwyr, ar ymchwiliad hirhoedlog i ehangu un darn bach o draffordd ddim yn wario doeth.

Os oes angen ffordd newydd o gylch Casnewydd, mi ddylid ei chodi. Os nad oes, neu os yw'r pris amgylcheddol yn rhy uchel, fe ddylai'r ateb hwnnw fod yn weddol amlwg heb wastraffu cymaint o'r coffrau.

Allwn ni ddim 'chwaith ddanfon neges glir un diwrnod nad ydym ni am i bobl ddefnyddio ceir yn ne ddwyrain Cymru a chwyno deuddydd wedyn bod cwmni ceir ym Mhen-y-bont ddim yn gweld dyfodol mor llewyrchus yng Nghymru.

Diffyg 'gweledigaeth glir'

Beth yw'r broblem wrth dwnnel Bryn Glas? Ceir o unrhyw fath, neu'r llygredd o gerbydau petrol a diesel heddiw. Os llygredd yw'r ateb, beth am amod clir mai 'mond ceir trydan gaiff ddefnyddio'r lôn newydd. Fe fydda digon ohonyn nhw ar y farchnad erbyn cwblhau'r gwaith.

Beth sydd ar goll yng Nghymru yw nid gwybodaeth drylwyr ond gweledigaeth glir. Mae angen uno'r dots os liciwch chi, a rhoi lliwie deniadol a naratif gafaelgar drostyn nhw, a mynd â'r neges gyson honno i bob cwr o'r wlad gyda'r egni a'r brwdfrydedd mae'n haeddu.

Image copyright Matthew Horwood
Image caption Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru ers Rhagfyr 2018

Fe welson ni hynny yng Nghymru chwarter canrif yn ôl. Roedd Ron Davies yn gwybod yn iawn sut oedd creu darlun oedd yn fwy na darnau polisi unigol ei gynlluniau i Gymru. Heb ynni, ymroddiad a gweledigaeth yr Ysgrifennydd Gwladol, a'i barodrwydd i bechu ei blaid ei hun a rhoi egwyddor uwchlaw teyrngarwch torfol, fydda yna ddim Cynulliad yng Nghaerdydd.

Rhaid i'n harweinwyr presennol ni ddangos yr un rhinweddau wrth i etholiad nesa'r Cynulliad agosáu.

'Mynnu safonau'

Mae Adam Price wedi torri'n groes i'r graen trwy addo torri treth incwm a threthi corfforaethol ac mae'n siarad am annibyniaeth fel ateb realistig i wendidau San Steffan, nid fel rhyw ddatganiad annelwig o ffydd.

Fe fu'n chwa o awyr iach eisoes i'n gwleidyddiaeth ni, a chydag arweinwyr newydd ar bron pob Plaid yng Nghaerdydd, gobeithio y gwelwn ni eraill yn dangos dychymyg a gwreiddioldeb cyffelyb.

Yn y pen draw mae angen polisïau manwl, gweledigaeth gref a chymeriad cadarn. All 'run Cymro gwyno os nad y' nhw'n hoffi'r Prif Weinidog nesaf yn San Steffan heb fynnu'r un safonau - a mwy - gan ein gwleidyddion yng Nghaerdydd.


Hefyd o ddiddordeb: