Agor cwest i farwolaeth dyn gafodd ei saethu â bwa croes

Gerald Corrigan Image copyright Llun teulu
Image caption Dywedodd teulu Gerald Corrigan wedi'r ymosodiad eu bod nhw'n ceisio dod i delerau â'r digwyddiad "dychrynllyd"

Cafodd cwest ei agor ddydd Iau i farwolaeth dyn 74 oed gafodd ei saethu gyda bwa croes y tu allan i'w gartref.

Bu farw Gerald Corrigan ar 11 Mai, rai wythnosau wedi iddo gael ei saethu wrth drwsio lloeren ar wal ei dŷ ar gyrion Caergybi ar 19 Ebrill.

Does neb wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac mae'r heddlu yn parhau i apelio am wybodaeth.

Dywedodd y Crwner Dewi Pritchard Jones yng Nghaernarfon ddydd Iau: "Ar 19 Ebrill cafodd Mr Corrigan ei ganfod yn ei gartref wedi'i orchuddio gan waed.

"Cafodd ei gludo i'r ysbyty lleol ble sylweddolon nhw ei fod wedi cael ei saethu... gyda bwa croes.

"Cynhaliwyd archwiliad post-mortem ac roedd archwiliad fforensig manwl. Cynhaliwyd archwiliad post-mortem pellach hefyd i weld a allem gael rhagor o wybodaeth."

Cafodd ei gorff ei ryddhau'r wythnos diwethaf ar gyfer angladd.

Cafodd y cwest ei ohirio.

Straeon perthnasol