Oriel luniau: Llyfr y Flwyddyn 2019

Noson Manon Steffan Ros oedd hi yn seremoni Llyfr y Flwyddyn, wrth iddi ennill y prif wobr Gymraeg am Llyfr Glas Nebo, ynghyd â Gwobr Barn y Bobl Golwg360 a Gwobr Ffuglen Prifysgol Aberystwyth.

Aeth y ffotograffydd Iestyn Hughes i'r seremoni yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, er mwyn rhoi blas o'r noson.

Seren Jones, fu'n cyflwyno'r noson, Manon Steffan Ros, enillydd y prif wobr Gymraeg, Ailbhe Darcy, enillydd y prif wobr Saesneg, a Lleucu Siencyn o Llenyddiaeth Cymru Image copyright Iestyn Hughes
Image caption Seren Jones, fu'n cyflwyno'r noson, Manon Steffan Ros, enillydd y prif wobr Gymraeg, Ailbhe Darcy, enillydd y prif wobr Saesneg, a Lleucu Siencyn o Llenyddiaeth Cymru
Cathryn Charnell-White oedd un o aelodau'r panel beirniadu Cymraeg eleni Image copyright Iestyn Hughes
Image caption Cathryn Charnell-White oedd un o aelodau'r panel beirniadu Cymraeg eleni
Yn fuddugol yn y categori Ffeithiol Greadigol Cymraeg oedd Andrew Green am ei lyfr Cymru mewn 100 gwrthrych Image copyright Iestyn Hughes
Image caption Yn fuddugol yn y categori Ffeithiol Greadigol Cymraeg oedd Andrew Green am ei lyfr Cymru mewn 100 gwrthrych
Tad Carys Davies, John Bowen, a dderbyniodd Wobr Ffuglen Saesneg Prifysgol Aberystwyth ar ei rhan, am ei nofel 'West' Image copyright Iestyn Hughes
Image caption Tad Carys Davies, John Bowen, a dderbyniodd Wobr Ffuglen Saesneg Prifysgol Aberystwyth ar ei rhan, am ei nofel 'West'
Roedd Manon Steffan Ros 'wedi mopio' ar ôl ennill tair gwobr am ei nofel 'post-apocalyptic', Llyfr Glas Nebo Image copyright Iestyn Hughes
Image caption Roedd Manon Steffan Ros 'wedi mopio' ar ôl ennill tair gwobr am ei nofel 'post-apocalyptic', Llyfr Glas Nebo
'Moneyland' gan Oliver Bullough oedd enillydd y categori Ffeithiol Greadigol Saesneg Image copyright Iestyn Hughes
Image caption 'Moneyland' gan Oliver Bullough oedd enillydd y categori Ffeithiol Greadigol Saesneg
Roedd y tlysau wedi eu creu gan Angharad Pearce Jones Image copyright Iestyn Hughes
Image caption Roedd y tlysau wedi eu creu gan Angharad Pearce Jones
Ailbhe Darcy Image copyright Iestyn Hughes
Image caption Roedd dwy wobr i Ailbhe Darcy am ei chyfrol 'Insistence'. Enillodd y Wyddeles y prif wobr Saesneg a Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias
Alaw Mai Edwards a dderbyniodd wobr Alan Llwyd ar ei ran. Daeth ei gyfrol, Cyrraedd a Cherddi eraill, i'r brig yn y categori barddoniaeth Cymraeg Image copyright Iestyn Hughes
Image caption Alaw Mai Edwards a dderbyniodd wobr Alan Llwyd ar ei ran. Daeth ei gyfrol, Cyrraedd a Cherddi eraill, i'r brig yn y categori barddoniaeth Cymraeg
Yn 2017, Idris Reynolds oedd enillydd Llyfr y Flwyddyn. Eleni, roedd ar y panel beirniadu Image copyright Iestyn Hughes
Image caption Yn 2017, Idris Reynolds oedd enillydd Llyfr y Flwyddyn. Eleni, roedd ar y panel beirniadu
'Gen' gan Jonathan Edwards oedd dewis y bobl - enillodd y People's Choice Prize, a noddir gan Wales Arts Review Image copyright Iestyn Hughes
Image caption 'Gen' gan Jonathan Edwards oedd dewis y bobl - enillodd y People's Choice Prize, a noddir gan Wales Arts Review
Enillwyr y gwobrau Cymraeg gyda'r panel beirniadu Image copyright Iestyn Hughes
Image caption Enillwyr y gwobrau Cymraeg gyda'r panel beirniadu

Hefyd o ddiddordeb: