Chwe ymgeisydd yn isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed

Daeth cadarnhad brynhawn Gwener mai chwe ymgeisydd fydd yn sefyll yn isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed.
Daw'r isetholiad wedi i dros 19% o'r etholaeth arwyddo deiseb i ddiswyddo'r Aelod Seneddol Ceidwadol Chris Davies.
Ond fe wnaeth aelodau'r Blaid Geidwadol yn etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed ddewis Mr Davies i fod yn ymgeisydd ar eu rhan unwaith eto.
Fe fydd yn wynebu Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Des Parkinson o Blaid Brexit, Tom Davies o'r Blaid Lafur, Liz Phillips o UKIP a The Pink Lady Lily o'r Official Monster Raving Loony Party.
Mae Plaid Cymru a'r Blaid Werdd wedi penderfynu peidio sefyll er mwyn rhoi gwell cyfle i ymgeisydd sy'n gwrthwynebu Brexit.
Rhestr ymgeiswyr yn llawn:
- Y Ceidwadwyr - Chris Davies
- Y Blaid Lafur - Tom Davies
- Y Democratiaid Rhyddfrydol - Jane Dodds
- Plaid Brexit - Des Parkinson
- UKIP - Liz Phillips
- Official Monster Raving Loony Party - The Pink Lady Lily
Mae modd i bobl wneud cais ar gyfer pleidlais bost erbyn 17:00 ar 17 Gorffennaf ac mae mwy o wybodaeth am y broses bleidleisio ar wefan Cyngor Powys.
Bydd yr isetholiad yn cael ei chynnal ar 1 Awst.