Colli cof newyddiaduraeth Gymraeg

Y newyddiadurwyr Karen Owen a Gwilym Owen Image copyright Slam Media
Image caption Karen Owen yn recordio sgwrs efo Gwilym Owen yn 2015. Fe siaradodd y ddau gyda'i gilydd am y tro olaf rai dyddiau cyn ei farwolaeth pan ddywedodd Gwilym Owen wrthi: "Keep up the good work".

Ar hyd ei yrfa, bu'r newyddiadurwr Gwilym Owen yn "holi a stilio, procio a phryfocio". Yma, mae un o'i gydweithwyr, Karen Owen, yn dweud mai ei ddealltwriaeth o'i wlad oedd yn galluogi'r darlledwr 87 oed i gadw golwg ar sefydliadau Cymreig a chwestiynu'r rhai oedd mewn grym.


Mae colli Gwilym Owen yn golygu colli darn mawr o gof newyddiaduraeth Gymraeg achos mae gan bob cenedl ei strwythur.

Mae gwlad wedi ei sefydlu ar egwyddorion. Mae'n bodoli ac mae hi fel y mae hi oherwydd ei hanes, oherwydd ei sefydliadau ac oherwydd beth sydd wedi bod - y tensiynau a'r pethau da sydd wedi bod yn y gorffennol - a rhywsut mae rhaid i newyddiadurwr sydd eisiau bod ar ben ei bwnc, ac yn enwedig un sydd yn sylwebu ar fywyd cenedl, fod yn gwybod beth sy'n gwneud i'r genedl yna dician. Ac roedd Gwilym yn deall hynny.

Weithiau mae eisiau gwybod pa fotymau sy'n bosib eu pwyso er mwyn ysgogi trafodaeth, ail gynnau ffrae weithiau neu jest sefydlu 'wel, beth aeth o'i le fan hyn?' ac mae hynny yn golygu gweld beth ydy'r berthynas rhwng gwleidyddiaeth a senedd, yr Eglwys, Anghydffurfiaeth, a hanes hynny i gyd a pha mor radical oedd hynny yn hanes Cymru.

Rydan ni'n gwybod o ran enwadau crefyddol faint o densiynau sydd rhyngddyn nhw a sut maen nhw i gyd yn eu tro wedi cael effaith ar ddiwylliant - unai eu bod nhw wedi dweud 'o mae'n bechadurus i ddawnsio gwerin' neu 'mae'n bechadurus i gynnal dramâu neu i ganu rhai mathau o ganeuon'.

Mae hyn i gyd wedi cael effaith ar y cenedlaethau sy'n dod ar eu holau nhw ac oherwydd hynny dwi'n teimlo bod newyddiadurwr sy'n sylwebu ar fywyd cenedl yn gorfod bod yn ymwybodol o hynny.

Image caption Bu Gwilym Owen yn newyddiadura ac yn darlledu am dros hanner can mlynedd

Achos mae bob dim yn deillio o hynny yng Nghymru - fel S4C a darlledu, a'r holl gyfryngau eraill. Does 'na ddim byd yn digwydd mewn faciwm mewn hanes cenedl felly mae bob dim yn ychwanegu fel bricsan ar fricsan mewn wal.

A fedrwn ni ddim dweud 'dwi ddim yn gwybod dim byd am grefydd yng Nghymru' er enghraifft. Wel, fe ddylen ni wybod a does yna ddim esgus os ydan ni'n sylwebu ar rywbeth. Mae'n bwysig ein bod ni'n gwybod am be' ydan ni'n siarad amdano fo.

Mae 'run fath gyda hanes pêl-droed Cymru - pa mor bwysig ydi annibyniaeth ar y maes chwaraeon a'r math yna o beth. Mae politics ac mae ymwneud rhwng pobl mewn bob math o feysydd ac mae hynny yn creu'r genedl rydan ni'n rhan ohoni hi.

Mae'r Steddfod Genedlaethol, mae'r Mudiad Meithrin mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg sydd erbyn hyn yn swydd y Comisiynydd Iaith, mae'r rhain i gyd yn rhan o fywyd cenedl a dwi'm yn meddwl bod yna neb i'r fath raddau a Gwilym yn cadw cow ar be' sy'n digwydd yn yr holl lefydd hynny.


Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig