Diwrnod da i Middlesex yn erbyn Morgannwg

Dawid Malan Image copyright Rex Features
Image caption Llwyddodd y capten Dawid Malan i gael sgôr o 166 i Middlesex

Middlesex gafodd y gorau o'r diwrnod cyntaf yn erbyn Morgannwg gan gyrraedd cyfanswm o 384 yn eu batiad cyntaf yng Ngerddi Soffia ddydd Sadwrn.

Y capten Dawid Malan oedd y seren i'r ymwelwyr gyda sgôr o 166.

Llwyddodd dau chwaraewr arall - Nathan Sowter (57 heb fod allan) a Toby Roland-Jones (54) - i basio hanner cant hefyd i Middlesex.

Fe ddaeth hynny yn dilyn dechrau da i'r tîm cartref, wnaeth gyfyngu Middlesex i sgôr o 131-6 cyn i'r batwyr gael y gorau o'r prynhawn.

Roedd digon o amser am naw pelawd i Forgannwg hefyd, gafodd ddechrau gwael iawn i'w batiad gan gyrraedd sgôr o 25-4 erbyn diwedd y dydd.

Mae Morgannwg yn yr ail safle yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd, ac yn parhau'n ddiguro hyd yn hyn y tymor yma.

Pynciau Cysylltiedig