Rhyddhau dynes wedi marwolaeth dyn 71 oed yn Y Rhyl

Ffordd Tŷ Newydd, Y Rhyl Image copyright Google
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Tŷ Newydd yn yr oriau mân ddydd Mawrth

Mae Heddlu'r Gogledd wedi rhyddhau dynes gafodd ei arestio yn dilyn marwolaeth dyn 71 oed yn Y Rhyl.

Dyw'r heddlu bellach ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus.

Cafodd y dyn 71 oed ei ganfod yn farw mewn tŷ yn Ffordd Tynewydd yn oriau man bore Mawrth.

Yn wreiddiol roedd yr heddlu yn dweud eu bod yn ystyried yr adeilad yn safle trosedd gan arestio dynes 59 oed.

Mae hi nawr wedi cael ei ryddhau yn ddiamod, a dywed yr heddlu eu bod wedi cyfeirio'r mater i'r crwner.