Sgandal gwaed heintiedig: 'Rhaid disgyn ar eu bai'

Cafodd miloedd o bobl eu heintio gan waed yn ystod yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel y sgandal driniaeth waethaf erioed yn y gwasanaeth iechyd yn y 1970au ac 80au.

Bu farw nifer o ganlyniad i afiechydon fel AIDS a Hepatitis C, a'r wythnos hon mae ymchwiliad cyhoeddus yn clywed gan Gymry gafodd eu heintio a theuluoedd y rhai fu farw.

Yr amcangyfrif yw bod o leiaf 300 o bobl yng Nghymru wedi'u heintio ond nid yw'r ffigwr yn cynnwys pobl fu farw heb wybod eu bod wedi'u heffeithio.

Dyma yw'r ymchwiliad cyhoeddus mwyaf o'i fath erioed ym Mhrydain.

Dyma stori Jane Jones o Wynedd.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
"Os mai dyma sydd o 'mlaen i, waeth i mi orffen fy mywyd rŵan"

Cwestiwn annisgwyl gan y meddyg teulu ddechrau'r 1990au wnaeth achosi i Jane Jones ddechrau meddwl bod rhywbeth mawr o'i le.

"Dyma fo jyst yn gofyn, out of the blue dyma fo'n d'eud: 'A faint o ddiod feddwol ydach chi'n yfed?'

"A nes i feddwl, pam bod o'n gofyn hyn? A'r rheswm, dwi ddim yn yfed."

Roedd Jane, sy'n byw yn Y Groeslon ger Caernarfon, wedi bod yn teimlo'n flinedig ac yn cael poenau yn ei stumog.

Ar ôl gweld ei doctor fe benderfynodd gysylltu gyda'i meddyg gwaed.

Cafodd Jane ei geni gyda math o'r cyflwr hemoffilia - lle dyw'r gwaed ddim yn ceulo.

Ond fe ddarbwyllodd y doctor nad oedd angen iddi bryderu. Pan aeth hi yn ôl i'w weld er mwyn cael canlyniadau'r profion gwaed roedd y stori wedi newid.

"Peth cyntaf nes i sylwi, nodiadau o'i flaen o a sticer melyn ar y nodiadau a doedd o ddim yna rhai wythnosau yn gynt.

Danger of infection oedd y geiriau ar y sticer meddai.

Roedd gan Jane Hepatitis C.

'Mynd off a pheidio dod yn ôl'

Mae'n credu iddi gael gwaed heintus un ai pan gafodd fabi a bu'n rhaid iddi gael sawl peint o waed wedi'r enedigaeth, neu ar ôl iddi golli babi yn y groth.

Dyma'r union gyflwr oedd gan ei mam, ac mae'n ei chofio yn taflu fyny gwaed ac yn dioddef yn arw.

Pan ddaeth y newyddion bod ganddi hi'r un afiechyd daeth meddyliau tywyll i'w phen.

"Nes i gysidro nai fynd off a pheidio dod yn ôl.

"O'n i ddim yn meddwl bo' fi'n ddigon cryf i fynd trwy beth oedd mam yn mynd trwyddo.

"Be' o'n i ddim isio mwy na dim byd oedd fy mhlant i weld beth o'n i wedi gweld 'efo mam."

'Disgyn ar eu bai'

Am flynyddoedd wedyn cafodd Jane broblemau iechyd.

"Dwi'n cofio ryw fore dydd Llun. O'n i mor sâl. Fedrai'm hyd yn oed egluro pa mor sâl o'n i.

"A dyma fi yn deud wrtho fo [ei chymar]: 'Ti'n gwybod bo' fi yn marw heddiw dwyt?'."

O fewn awr ar ôl iddi gyrraedd yr ysbyty roedd hi yn yr uned gofal dwys. Roedd dŵr wedi bod yn casglu yn ei chorff ac wedi achosi twll yn ei diaffram.

Yn araf deg roedd ei hysgyfaint yn boddi.

Image copyright Llun teulu

Yn y pendraw bu'n rhaid iddi gael afu newydd sydd wedi gweddnewid ei bywyd.

Mae'n flin iawn bod gwaed oedd yn heintus wedi cael ei ddefnyddio mewn triniaethau meddygol gan filoedd o gleifion.

Mae eisiau i'r rhai sy'n gyfrifol "ddisgyn ar eu bai".

"Dwi'n gobeithio daw y gwir i gyd allan a gwneud yn siŵr na geith dim byd fel'ma ddigwydd byth eto"

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol