Sut fath o dwristiaeth ydyn ni eisiau yng Nghymru?

visit Image copyright Matt Cardy

Mae hi'n 50 mlynedd ers sefydlu Bwrdd Croeso Cymru, ac yn 25 mlynedd ers i'r gyfrol gyntaf ar Gymru yn y gyfres Rough Guide gael ei chyhoeddi.

Yma, mae awdur y Rough Guide cyntaf, Mike Parker, yn rhoi ei farn ar dwristiaeth Cymru - y diwydiant sy'n dod â £6.3 biliwn i fusnesau yma bob blwyddyn - a pham nad yw eisiau gweld Cymru yn mynd lawr yr un llwybr â rhai lleoedd yn Iwerddon a'r Alban.

'Twristiaeth wedi bwyta bob dim'

"I fi ma' 'na broblem cymharu ein hunain â llefydd fel ardal Loch Ness a'r Ucheldiroedd a gorllewin Iwerddon, a ma 'na lot o rybudd i ni, achos os y'ch chi wedi mynd i'r llefydd rheiny, yr hyn welwch chi yw bod twristiaeth wedi 'bwyta' bob dim yno," meddai Mike Parker.

"Dy'n nhw ddim yn byw fel cymunedau go iawn, ma' nhw wedi eu gwagio allan gan dwristiaeth a dydy hynny ddim yn esiampl ddylen ni ddilyn."

Image copyright Geography Photos
Image caption Ciw ar y copa; golygfa gyffredin ar gopa'r Wyddfa

Ar daith ddiweddar i ogledd Cymru fe welodd yr hyn mae'n ei alw yn dwf pellach yr honey pots.

"Ma' nhw yn ardaloedd sy'n llawn pobl ond ma' 'na lefydd cyfagos sydd heb lot o ymwelwyr eraill o gwbl. Ma' Pen Llŷn yn esiampl o le dwi'n credu ble mae'r gymuned wedi rhoi'r gorau i Abersoch i achub gweddill yr ardal rhag twristiaid. Pragmatiaeth go iawn yw hyn."

Tra nad oes problem gan Mike Parker weld ymwelwyr yn Sir Benfro yn mwynhau'r syrffio ac abseilio a'r awyr agored, mae wedi gweld newid mawr dros y chwarter canrif ddiwethaf mewn un maes yn arbennig.

"Mae rhai ardaloedd fel un outdoor leisure centre mawr. Ma' twristiaeth awyr agored wedi tyfu cymaint fel does dim economi arall mewn sawl ardal yng Nghymru bellach. Mae'n iawn mewn economi gymysg ond ar ei ben ei hun fel yr unig beth, mae'n creu cymaint o hafoc a pherygl."

Bod yn Gymreig yn 'rhoi pobl off'?

"Ma' llefydd yng Ngwlad y Basg yn arbennig sydd yn gwneud pethe'n dda iawn. Os chi'n mynd i San Sebastian er enghraifft, lle sy' yn llawn twristiaid ond sydd â hunaniaeth ei hunan, ma' bwyd lleol ffantastig ymhob man a does dim amheuaeth o gwbl ble ry'ch chi. Lle hollol unigryw, sydd yn teimlo fel nunlle arall.

"Mae rhai pobl o fewn y sector yng Nghymru sy'n credu os dy'n ni'n creu rhywbeth rhy Gymreig ei fod yn mynd i roi pobl off, ond mae tystiolaeth yn dweud nad yw hynna yn wir, y llefydd sy'n wahanol sydd yn denu pobl."

Image copyright Marian Delyth
Image caption Mae Mike Parker yn byw yng nghanolbarth Cymru ac wedi ysgrifennu'n helaeth am deithio Cymru, Prydain ac Ewrop

Mae Mike Parker yn credu bod ardal Eryri - gan fod Cymreictod yno yn gryfach na mewn llefydd eraill sydd yn dibynnu ar dwristiaid - yn mynd i fedru cadw ei chymeriad, ond stori arall yw hi yn y brifddinas, meddai.

"Pob tro dwi yn mynd i Gaerdydd ma' fe'n edrych fel unrhyw le arall. Ma' rhai o'r arwyddion yn dangos eich bod chi yng Nghymru ond does dim byd arall yn.

"Ers blynyddoedd mae'r Cyngor a'r bobl sydd wedi bod yn datblygu'r ddinas wedi bod mewn cariad â chain bars a chain restaurants a chain shops. Dyna ydy'r pethe' mwya' iddyn nhw… dwi ddim yn gallu ei ddeall o gwbl, mae'n siom. Caerdydd yw'r esiampl o sut i beidio gwneud pethau."

Image copyright Matthew Horwood
Image caption Heol y Santes Fair, Caerdydd

Ond os oes yna rhywle sydd yn gwneud pethau yn iawn yng Nghymru, tre'r 'cofis' yw honno, meddai.

"Bues i yn Gŵyl Arall ac roedd e'n llawn dop, roedd e'n hyfryd clywed yr holl ieithoedd a ma' hyder Cymraeg a Chymreig yn perthyn i'r lle ac mae e'n apelio.

"I rai little Englanders ma'n gallu bod yn off-putting, a diolch byth ei fod e'n off-putting iddyn nhw. Does dim cuddio diwylliant a gwyneb go iawn y lle."

Image caption Caernarfon dan ei sang yn ystod Gŵyl Arall

Blwyddyn lwyddianus

"Mae eleni yn edrych fel blwyddyn lwyddiannus o ran twristiaeth i Gymru - ma'r bunt yn isel felly ma' mwy o dramorwyr yn dod yma a ma' mwy o bobl yn aros adre i dreulio gwyliau. Dy'n ni'n mynd i weld 'gwawr ffals'. Beth sydd yn mynd i ddigwydd wedyn pwy a ŵyr."

I Mike Parker un peth sydd wedi codi proffil Cymru yn fwy na dim arall dros y blynyddoedd diwethaf yw llwyddiant y tîm pêl-droed cenedlaethol.

"Ma' pobl wedi dod i wybod am Gymru drwy lwyddiant y tîm pêl-droed, efallai yn fwy na gwaith y bwrdd twristiaid.

"Pan ro'n i yn ysgrifennu'r Rough Guide cynta', Giggs oedd yr enw mawr, a nawr tîm Cymru a Gareth Bale yw hi."

Hefyd o ddiddordeb: