Cyhoeddi enw'r dyn a gafodd ei drywanu yng Nghaerdydd

Asim Khan Image copyright Llun teulu
Image caption Mae teulu Asim Khan yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn 21 oed a gafodd ei drywanu yn ystod oriau mân fore Sul yng nghanol Caerdydd.

Roedd Asim Khan yn dod o Grangetown a bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Cafodd Heddlu'r De eu galw i Heol Eglwys Fair oddeutu 04:50 fore Sul wedi adroddiad o ymosodiad.

Mae dyn lleol 27 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac ar hyn o bryd yn cael ei holi yng ngorsaf yr heddlu ym Mae Caerdydd.

Mae teulu Mr Khan yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Richard Jones: "Mae dyn ifanc wedi colli ei fywyd mewn modd drasig.

"Mae lluniau camerâu cylch cyfyng yn dangos bod ffrwgwd wedi dechrau ger McDonald's a symud tuag at siop Oxfam - yn y fan honno fe gwympodd y dyn wedi iddo gael ei drywanu."

Mae ymchwiliadau'r heddlu yn parhau.

Image caption Mae'r ymchwiliad ar Heol Eglwys Fair yn parhau
Image caption Roedd presenoldeb yr heddlu yng nghanol y brifddinas yn amlwg ddydd Sul

Pynciau Cysylltiedig