Cyhoeddi nofel gynta’... yn 76 oed

Image caption Gwireddu breuddwyd - o helpu ar y fferm pan yn ieuengach, i arwyddo ei nofel gyntaf yn y lansiad

Pan oedd Eirlys Jones yn yr ysgol roedd hi wrth ei bodd gyda llenyddiaeth, ond rhwng magu teulu a chadw tŷ fferm ar ôl priodi doedd 'na ddim llawer o amser i 'sgwennu creadigol.

Ond fe benderfynodd roi cynnig arni ar ôl ymddeol yn ddiweddar - ac mae hi newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf a hithau'n 76 oed.

"Ro'n i'n licio sgwennu pan oeddwn i'n blentyn ysgol - wrth fy modd," meddai Eirlys Jones, aeth i Ysgol Y Ffôr ac Ysgol Ramadeg Pwllheli.

"Wedyn nes i fynd i weithio pan oeddwn i'n 16, priodi reit ifanc a chael tri o blant - wedyn doedd gan rywun ddim amser i 'sgwennu, nag i feddwl am y peth.

"Wnaethon ni ymddeol o ffermio rhyw ddwy flynedd yn ôl ac roedd gen i syniad yn fy mhen faswn i'n licio sgwennu rhywbeth a meddwl am syniad, a nes i jest mynd ati.

"Ro'n i'n codi tua 5 bob bore a sgwennu tan tua 9 - bob bore," meddai. "Roedd y syniadau jest yn dod allan o'm mhen i a ro'n i eisiau 'sgwennu.

"Doeddwn i heb wneud cynllun na dim byd. Roedd gen i ryw syniad lle oedd y stori yn mynd ond nes i jest dilyn fy nhrywydd fy hun tan oeddwn i wedi gorffen hi."

Eirlys Jones gyda'i theulu yn paratoi oen ar gyfer sioe Image copyright Llun Cyfrannwr
Image caption Eirlys Jones gyda'i theulu yn paratoi oen ar gyfer sioe

Fe wnaeth Gruff, ei gŵr, ddarllen y nofel a dweud y dylai gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.

"Ro'n i'n meddwl mai jocian oedd o. Doeddwn i ddim am wneud, ond penderfynu gwneud nes i yn y diwedd, a fo'n annog," meddai Eirlys, sy'n dal i fyw ar eu fferm ger Chwilog.

Soniodd ddim gair wrth neb arall rhag ofn iddi gael beirniadaeth wael, ond ei chanmol wnaeth beirniaid Gwobr Daniel Owen.

Fe roddodd hynny hyder i Eirlys gysylltu gyda Gwasg Carreg Gwalch, ac maen nhw newydd gyhoeddi'r nofel.

Pwy ti'n feddwl wyt ti?

Mae Pwy ti'n feddwl wyt ti? yn sôn am 'rwystredigaeth, teulu a chyfrinachau'r gorffennol' ond tydi hi ddim yn hunangofiannol, meddai Eirlys:

"Mae pethau wedi newid gymaint ers hanner can mlynedd, ers pan oedden ni'n ifanc ac yn priodi. Adeg hynny roedd rhan fwya' o ferched yn priodi a chael plant ac aros adra - dim gymaint yn cadw eu gyrfaoedd.

"Ro'n i'n lwcus, roeddwn i adra ar y fferm yn mwynhau fy hun - wrth fy modd efo'r plant hyd y lle yma, hyd y caeau yma, roedd hi'n braf iawn - felly nes i erioed feddwl o, ond ella bod ambell un yn meddwl 'wel tybed be' fasa wedi digwydd taswn i wedi cario 'mlaen efo fy ngyrfa'.

"Jest rhyw feddwl fel yna nes i a dechrau fel yna - meddwl am y cymeriad a meddwl tybed sut oedd hi'n teimlo."

Eirlys Jones gyda'i chyn-athrawes Mair Jones Image copyright Gwasg Carreg Gwalch
Image caption Eirlys Jones gyda'i chyn-athrawes Mair Jones

Cynhaliwyd lansiad swyddogol yn ddiweddar ym Mhencaenewydd, ac un o'r rhai ddaeth yno oedd un o'i chyn-athrawesau.

Meddai Eirlys, "Athrawes Gymraeg oedd Mrs Mair Jones yn Ysgol Ramadeg Pwllheli ac mi oedd hi'n athrawes arbennig.

"Mi rydw i yn falch o gael dweud ein bod ni'n dwy yn dal mewn cysylltiad ers yr holl flynyddoedd ac mi oeddwn mor hapus o'i gweld yn bresennol yn y lansiad."

Byth rhy hwyr

Mae gan Eirlys neges i unrhyw un arall sydd â'u bryd ar wneud rhywbeth ac yn gweld amser yn gwibio heibio.

Meddai: "Tydi hi ddim rhy hwyr i 'neud dim byd. Mae'n bwysig os yda' chi eisiau gwneud rhywbeth i fynd amdani.

"Mae'n hawdd iawn i chi feddwl bod hi'n rhy hwyr ond mae'n bwysig gwneud y pethau yma.

"Sna'm pwynt sefyll yn ôl a chadw at ryw un ffordd gul - pan 'da chi'n dod at ryw groesffordd mae eisiau troi oddi arni weithiau a gweld be' welwch chi."

Ac mae'n amlwg bod Eirlys wedi mwynhau ei llwybr newydd hi, gan ei bod hi bron â gorffen ei hail nofel yn barod.

Hefyd o ddiddordeb: