Sgandal gwaed: Galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd

Gwaed Image copyright vladacanon/Getty Images
Image caption Yr amcangyfrif yw i tua 300 o Gymry gael eu heintio yn y 70au a'r 80au

Mae angen i Lywodraeth Cymru arwain y ffordd wrth ddysgu gwersi o'r sgandal gwaed heintiedig, yn ôl un o gyfreithwyr amlycaf Cymru ym maes esgeulustod meddygol.

Ar ddydd Mawrth a dros y dyddiau nesaf bydd ymchwiliad cyhoeddus yn clywed gan Gymry gafodd eu heintio, a theuluoedd y rhai fu farw ar ôl derbyn gwaed a chynnyrch gwaed nad oedd yn ddiogel yn y 1970au a'r 80au.

Bu farw nifer o ganlyniad i afiechydon fel AIDS a Hepatitis C yn dilyn yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel y sgandal driniaeth waethaf yn hanes y gwasanaeth iechyd.

Yn ôl Mari Rosser, pennaeth esgeulustod meddygol cyfreithwyr Hugh James, dylai'r llywodraeth ymrwymo i weithredu unrhyw argymhellion ddaw yn sgil yr ymchwiliad - er bod y sgandal wedi digwydd flynyddoedd lawer cyn datganoli.

Ychwanegodd Ms Rosser: "Bydden i'n galw am hynny... a hynny cyn clywed y dystiolaeth. Mi fydd y dystiolaeth yma yn ddirdynnol.

"Mi fydd pobl yn clywed am brofiadau ofnadwy ac yna bydd hynny yn cynyddu'r pwysau ar wleidyddion i wneud y pethe iawn o ran y dioddefwyr.

"Mi oedd hwn yn sgandal - ac yn sgandal ma' sawl llywodraeth wedi methu delio ag e."

Image caption Bydd argymhellion yr adroddiad yn cael eu hystyried yn ofalus, yn ôl Vaughan Gething

Er yn pwysleisio mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU oedd iechyd pan ddigwyddodd y sgandal, mae'r Gweinidog Iechyd wedi addo y bydd Llywodraeth Cymru a'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn dysgu'r gwersi.

Dywedodd Vaughan Gething: "Fe fydd unrhyw argymhellion ddaw maes o law yn cael eu hystyried yn ofalus a byddai angen rheswm da iawn i beidio â dilyn yr argymhellion hynny."

Ychwanegodd ei fod am sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r rhai gafodd eu heintio a'u teuluoedd.

"Rwy'n ymrwymo'n llwyr i barhau i wrando ar y gymuned gafodd ei heffeithio er mwyn deall beth arall y gallwn ei wneud heddiw i roi'r holl help a chefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw," meddai.

'Eglurder a chydraddoldeb'

Dywedodd fod trafodaethau'n parhau rhwng gwledydd y DU ynglŷn â chael cynllun cymorth ariannol a fyddai'r un fath ar draws y DU i ddod ag "eglurder a chydraddoldeb" yn dilyn cwynion fod unigolion yn cael llai o gymorth ariannol na dioddefwyr yn Lloegr a'r Alban.

"Rydw i eisiau i'r mater gael ei ddatrys cyn gynted â phosibl - gorau po gyntaf," meddai.

Image caption Mae Mari Rosser yn un o gyfreithwyr amlycaf Cymru ym maes esgeulustod meddygol

Bydd yr ymchwiliad, sydd wedi'i gadeirio gan Syr Brian Langstaff, yn clywed gan 15 o dystion ac yn ystyried dwsinau yn rhagor o gyflwyniadau ysgrifenedig.

Mae'r ymchwiliad eisoes wedi clywed gan ddioddefwyr yn Yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac yn y pendraw bydd yn ystyried miliynau o dudalennau o ddogfennau gan gyrff cyhoeddus.

Yr amcangyfrif yw i 300 o Gymry gael eu heintio yn y 70au a'r 80au.

Roedd llawer gafodd eu heintio yn bobl â haemoffilia wnaeth dderbyn triniaeth newydd, tra bod eraill wedi cael eu heintio â Hepatitis C ar ôl derbyn gwaed drwy drallwysiad.

'Oedd 'na fai yn rhywle?'

Yn ôl Ms Rosser prif flaenoriaeth yr ymchwiliad yw clywed gan y rhai sydd wedi dioddef er mwyn darganfod beth yn union aeth o'i le.

"Y peth mwyaf pwysig yw deall sut nath hwn ddigwydd. Mae hwnna'n anodd iawn.

"Wrth gwrs ry' ni'n mynd nôl i'r 70au, 80au ac ry' ni'n trafod sefyllfa lle'r oedd y gwasanaeth iechyd yn ymwneud â chwmnïau masnachol yn yr Amerig," meddai.

"Y pwynt 'wi'n credu o safbwynt y cleifion yw deall a oedd na wybodaeth, neu a ddylai fod 'na wybodaeth gan y gwasanaeth iechyd ar y pryd.

"A ddylen nhw fod wedi ystyried fod 'na berygl ynglŷn â mewnforio'r plasma yma oedd wedi mynd 'mlaen i heintio'r cleifion. Oedd 'na fai yn rhywle?"

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol