Llofruddiaeth Caerdydd: Dyn yn ymddangos yn y llys

Asim Khan Image copyright Llun teulu
Image caption Cafodd Asim Khan ei drywanu ar Heol Eglwys Fair yn oriau mân fore Sul

Mae dyn wedi ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar gyhuddiad o lofruddio dyn 21 oed ynghanol y brifddinas yn oriau mân fore Sul.

Cafodd Asim Khan ei drywanu ar Heol Eglwys Fair a bu farw'n ddiweddarach yn yr ysbyty.

Fe ymddangosodd Momodoulamin Saine, 27 oed ac o ardal Trelái y ddinas, yn y llys i gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad a'i ddyddiad geni.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd fore Mercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol Eglwys Fair tua 04:50 fore Sul wedi adroddiad o ymosodiad.

Bu farw Mr Khan, o ardal Grangetown y brifddinas, yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn ddiweddarach.

Mae teulu Mr Khan yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol, ac mae Heddlu'r De yn apelio am fwy o wybodaeth.

Straeon perthnasol