Gwersi Cymraeg i aelodau Sefydliad y Merched

Mair Stephens, SYM
Image caption Mae aelodau wedi bod yn galw am adnoddau i ddysgu Cymraeg, yn ôl Mair Stephens

Mae un o sefydliadau hynaf Cymru yn bwriadu cynnig gwersi Cymraeg i'w aelodau er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn eu rhengoedd.

Mae Sefydliad y Merched wedi comisiynu cwrs ar-lein 10 awr er mwyn i aelodau ddysgu Cymraeg "yn eu hamser eu hunain ac ar eu cyflymder eu hunain".

Ar hyn o bryd tua 27% o'r aelodau sy'n gallu siarad Cymraeg, ond yn ôl y sefydliad mae 13% yn rhagor o aelodau di-Gymraeg wedi nodi eu bod nhw am ddysgu'r iaith.

Dywedodd cadeirydd Ffederasiwn Sefydliad y Merched Cymru bod hwn yn gyfle i aelodau gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn ôl Mair Stephens, "mae Sefydliad y Merched yn chwarae rôl unigryw wrth ddarparu cyfleoedd addysgol i fenywod a'r cyfle i feithrin sgiliau newydd."

"Mae gan y Sefydliad hanes hir a nodedig yng Nghymru ac rydym yn hyrwyddo'r Gymraeg yn weithredol fel mater polisi.

"Mae llawer o'n haelodau'n cyfarfod ac yn sgwrsio yn Gymraeg ac mae llawer o'n digwyddiadau'n cael eu cynnal yn ddwyieithog.

"Ond mae nifer wedi ein holi ni hefyd am y ddarpariaeth newydd yma, ac mae'n braf cael ymateb mor bositif i'r datblygiad."

Y Gymraeg a Sefydliad y Merched

Dechreuwyd Sefydliad y Merched ym Môn yn 1915 gan helpu teuluoedd yn ystod y rhyfel.

Ers 1923 bu'n orfodol i'r Aelod Bwrdd Cenedlaethol dros Gymru fod yn siaradwr Cymraeg.

Mae pedwar aelod o staff gweithredol Sefydliad y Merched yng Nghymru yn siaradwyr Cymraeg.

Yng Nghymru mae gan Sefydliad y Merched 16,000 o aelodau ar draws 600 cangen a 13 Ffederasiwn Sirol.

Mae'r cwrs dechreuwyr wedi cael ei greu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Bydd y gwasanaeth, a fydd yn cael ei lansio'n swyddogol ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd ddydd Mawrth, ar gael i aelodau ar draws 600 o ganghennau'r sefydliad yng Nghymru, a thu hwnt.

Dywedodd Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: "Mae'r cwrs yn ymarferol o ran ei natur a'i nod yw helpu aelodau i ddefnyddio Cymraeg bob dydd yn gyflym."

Ychwanegodd: "Dyma'r tro cyntaf i sefydliad allanol ein comisiynu'n uniongyrchol fel hyn ac mae'n cadarnhau cyfraniad cadarnhaol y Ganolfan wrth hybu'r Gymraeg ar draws ystod o sectorau."

Pynciau Cysylltiedig