Sgandal gwaed: 'Dyled o ddiolch' i ymgyrchwyr

geting

Mae gan Gymru "ddyled o ddiolch" i'r rhai fu'n ymgyrchu am y sgandal gwaed wedi'i heintio, medd y gweinidog iechyd.

Dywedodd Vaughan Gething bod "gwir ymdeimlad o embaras" ei fod wedi digwydd yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Ond roedd hi'n bwysig bod pobl yn clywed am y gost ddynol a'r ffaith na chafodd ei ddatrys yn ddigon cynnar.

Mae dioddefwyr a'u teuluoedd yn rhoi tystiolaeth am ail ddiwrnod mewn ymchwiliad cyhoeddus ledled y DU yng Nghaerdydd.

Cafodd cleifion eu heintio gan gynhyrchion gwaed nad oedd yn ddiogel yn y 1970au a'r 80au, gan arwain at tua 2,400 o farwolaethau ledled y DU, nifer o ganlyniad i afiechydon fel Aids a Hepatitis C.

'Gwirionedd a chyfiawnder'

Mae o leiaf 300 o ddioddefwyr o Gymru ond roedd hi'n 35 mlynedd cyn i lywodraeth y DU gytuno i ymchwiliad cyhoeddus, dan arweiniad cyn-farnwr o'r Uchel Lys.

Mae'r ymchwiliad hwn wedi bod yn cynnal sesiynau i glywed tystiolaeth ledled y wlad.

Dywedodd Mr Gething: "Y ffordd orau i anrhydeddu ein dyled o ddiolch yw datrys yr heriau sydd gennym heddiw, dysgu gwersi o'r ymchwiliad a'i argymhellion ac yna dangos yn glir pa newidiadau rydym wedi'u gwneud - sut maen nhw'n helpu pobl heddiw, ac yn hanfodol y bobl sydd ddim yma ond a fydd yn dibynnu ar ein gwasanaethau yn y dyfodol."

Dywedodd fod y gwasanaeth gwaed yn llawer mwy diogel nawr ond bod angen diweddglo ar gyfer dioddefwyr a bod gan deuluoedd reswm da i fod yn ddig.

Dywedodd y byddai dycnwch yr ymgyrchwyr a'r gwersi a ddysgwyd yn gwneud y GIG yn fwy diogel.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo cymryd yr argymhellion o ddifrif.

Image caption Yn ôl Angela Burns mae'r sgandal yn "dangos y system ar ei waethaf"

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod yr anghyfiawnder yn "syfrdanol" a bod ganddo gymaint o edmygedd i etholwyr na ildiodd.

"Dwi wedi clywed straeon hynod o drist, pobl a oedd yn byw trwy'r cywilydd o gael eu heffeithio gan HIV a Hepatitis C heb fai arnynt eu hunain. Ac yna'n gorfod ymladd am atebion."

Dywedodd na ddylai'r llywodraeth aros tan ddiwedd yr ymchwiliad i sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cefnogi'n deg ac yn gyfartal - a dylai llywodraeth y DU dalu.

Ond dywedodd fod camau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd nawr i helpu yn y cyfamser.

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Angela Burns ei fod yn "dangos y system ar ei waethaf" a bod angen i Lywodraeth Cymru fabwysiadu'r argymhellion "yn llwyr".

Bu "poen aruthrol" oherwydd y diffyg ymchwiliad, yn ogystal â'r effeithiau ar iechyd, a dywedodd fod angen i'r holl lywodraethau "rhoi eu siop mewn trefn" fel bod gan bawb y lefel gywir o gymorth ac iawndal.

Rhoddion gwaed yng Nghymru

  • Mae angen 350 o roddion gwaed bob dydd;
  • Cesglir 98,000 o gelloedd gwaed y flwyddyn;
  • 12,500 unedau o blatennau gwaed y flwyddyn;
  • Mae angen 70% o'r gwaed ar gyfer cleifion â chyflyrau meddygol;
  • 25% ar gyfer cleifion sy'n colli gwaed yn dilyn damwain;
  • 5% ar gyfer mamau sydd wedi colli gwaed mewn genedigaeth.

Mae'r gadwyn cyflenwi gwaed yn y DU bellach ymhlith y mwyaf diogel yn y byd, gyda rhoddwyr yn cael eu sgrinio a phob uned o waed a gesglir yn cael ei phrofi'n drwyadl ar gyfer nifer o glefydau heintus cyn iddi gael ei rhoi i ysbytai.

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn casglu mewn tua 400 o leoliadau gwahanol ledled y wlad.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol