Heddlu'n dod o hyd i dri phlentyn aeth ar goll dros nos

Lewis a Lilly-Mae Owen-Roberts Image copyright Family photo
Image caption Roedd Lewis a Lilly-Mae Owen-Roberts ar goll nos

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dod o hyd i dri phlentyn o ardal Llandrillo-yn-Rhos yn Sir Conwy a oedd ar goll dros nos.

Roedd yna apêl am gymorth i ddod o hyd i Kiya Williams, sy'n 12 oed, Lewis Owen-Roberts, sy'n naw a Lilly-Mae Owen Roberts sy'n wyth, wedi i bryder godi nos Fawrth am fod neb wedi eu gweld.

Roedd hofrennydd yr heddlu yn rhan o'r chwilio dros nos ac roedd yr heddlu wedi gofyn am glywed gan unrhyw un oedd â gwybodaeth.

Dywed y llu bod y tri wedi eu darganfod yn saff ac yn iach.

Pynciau Cysylltiedig