Gwrthdrawiad angheuol ar yr A40 ger Y Fenni

Robert Watkins

Mae teulu dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad ger Y Fenni wedi "torri eu calonnau" wedi ei farwolaeth fore Mercher.

Bu farw Robert Watkins, 65 oed ac o'r ardal, wedi'r gwrthdrawiad ar yr A40 rhwng Y Fenni a Glangrwyne am tua 01:55.

Nid oedd yr un cerbyd arall yn rhan o'r digwyddiad.

Wrth roi teyrnged i Mr Watkins, dywedodd ei deulu ei fod yn "ddyn teulu oedd wrth ei fodd â ffermio a'i blant".

Ychwanegodd: "Mae ei golled wedi torri calonnau ei deulu a'i ffrindiau."

Mae'r heddlu'n dal i apelio am wybodaeth gan yrwyr oedd ar y ffordd rhwng 01:00 a 01:55.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101.

Pynciau Cysylltiedig