Hollted y mellt yr wybren...

Image copyright Stephen Davies Photography

Roedd stormydd mawr ar draws Cymru nos Fawrth, wrth i'r tywydd poeth droi'n fellt a tharannau.

Cafodd y llun trawiadol yma ei dynnu ym Mlaenau Gwent gan y ffotograffydd Stephen Davies.

Meddai Stephen, "O'n i wedi bwriadu mynd mas i dynnu lluniau ond o'n i ddim isie cael yr offer yn wlyb. Wnes i ddal y llun yma o stepen fy nrws - sy'n dangos weithiau nad oes angen i ti fynd yn bell i gael shot dda!"

Pynciau Cysylltiedig