Dyn 70 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad

Ffordd y Gadeirlan
Image caption Cafodd Ffordd y Gadeirlan ei chau i'r ddau gyfeiriad wedi'r gwrthdrawiad

Mae dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ar ffordd brysur yng nghanol Caerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'w digwyddiad ar Ffordd y Gadeirlan ym Mhontcanna am 17:44.

Roedd nifer o gerbydau yn rhan o'r gwrthdrawiad.

Cafodd dau ambiwlans ac un parafeddyg arall eu gyrru i'r digwyddiad.

Bu farw dyn 70 yn y fan a'r lle, ond does dim adroddiadau am unrhyw anafiadau eraill.

Mae Ffordd y Gadeirlan wedi ei chau i'r ddau gyfeiriad i'r de o'r gyffordd â Chlos Soffia.

Pynciau Cysylltiedig