Cei Connah 0-1 FK Partizan Belgrade

Michael Bakare of Connah's Quay Image copyright PA Media

Gwobr Cei Connah am drechu Kilmarnock o'r Alban yng Nghynghrair Europa oedd cael herio cewri FK Partizan o Serbia yn y rownd nesaf.

Colli fu eu hanes yn y cymal cyntaf yn Y Rhyl nos Iau, a hynny o 1-0.

Roedd yn berfformiad dewr gan dîm Andy Morrison, ac fe fyddan nhw'n teithio i Belgrade ymhen wythnos gyda gobaith o hyd o fynd ymlaen yn y gystadleuaeth.

Daeth unig gôl y gêm wedi 61 munud wrth i Aleksandar Šćekić daro foli o 15 llath i gornel y rhwyd.

Cyn trechu Kilmarnock dros ddau gymal yn y rownd ddiwethaf, fe wnaeth Cei Connah golli'r cymal cyntaf gartref, felly fe fyddan nhw'n gwybod bod cyfle o hyd i fynd ymlaen.

Ond roedd FK Partizan yn dîm cryf iawn yr olwg, a does dim dwywaith y bydd hi'n dalcen caled yn Serbia.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol