Rhybudd melyn am law trwm yn y gogledd ddwyrain

rhybudd tywydd Image copyright Y Swyddfa Dywydd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm yn y gogledd ddwyrain dros y penwythnos.

Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 09:00 fore Sadwrn a 15:00 prynhawn dydd Sul.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae disgwyl hyd at 40-60mm o law mewn rhai mannau gyda chymaint â 80-100mm ar dir uchel.

Yr ardaloedd sy'n debygol o gael eu heffeithio yw Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Sir Conwy a Wrecsam.

Mae rhybudd i yrwyr gymryd gofal ar y ffyrdd, tra bod oedi i wasanaethau bysiau a threnau yn bosib.

Pynciau Cysylltiedig