Achub bachgen ddisgynnodd 50 troedfedd ger rhaeadr

Achub Image copyright WESTERN BEACONS MRT

Mae bachgen wedi ei gludo i'r ysbyty ar ôl disgyn 50 troedfedd ym Mannau Brycheiniog.

Cafodd Tîm Achub Mynydd Gorllewin y Bannau eu galw i raeadr Henrhyd am tua 15:00 wedi adroddiadau bod bachgen yn ei arddegau wedi disgyn.

Dywedodd yr achubwyr bod y bachgen wedi cael anaf difrifol i'w goes.

Roedd rhaid defnyddio offer rhaffau arbenigol er mwyn achub y bachgen, ac roedd tua 20 o wirfoddolwyr a phum parafeddyg yn rhan o'r digwyddiad.

Image copyright WESTERN BEACONS MRT