Teyrnged i 'ŵr cariadus' wedi gwrthdrawiad Caerdydd

Eddie Gerrard Image copyright Llun Teulu

Mae teulu dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerdydd ddydd Iau wedi rhyddhau teyrnged iddo.

Dywedodd teulu Eddie Gerrard, 74 oed, y bydd colled fawr ar ei ôl o blith ei deulu ehangach, cyfeillion a chydweithwyr.

"Roedd Eddie yn ŵr cariadus i'w wraig Anna, ac yn dad oedd yn dotio ar ei fab Sean a'i wraig Sara," meddai'r datganiad.

"Bydd ei wyresau - Sophie, Emma a Shannon, yn ei golli'n fawr."

Mae Heddlu'r De yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad rhwng car Jaguar XKR llwyd Mr Gerrard a nifer o geir eraill ar Heol y Gadeirlan.

Bu'r ffordd ar gau am tua phedair awr wedi'r digwyddiad am 17:45.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol