Seiclwr wedi'i anafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad

Ffordd A4063 Image copyright Google
Image caption Mae ffordd yr A4063 yn parhau ar gau wedi'i gwrthdrawiad

Mae seiclwr wedi ei anafu'n ddifrifol yn dilyn gwrthdrawiad gyda char ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 02:50 fore Sul i'r digwyddiad ar ffordd yr A4063 rhwng Llangynwyd a Coytrahen.

Fe gafodd y seiclwr ei gludo i'r Ysbyty Tywysog Cymru yn y dref ac mae gyrrwr y Vauxhall Corsa oedd yn rhan o'r digwyddiad yn cynorthwyo'r heddlu gyda'i hymchwiliad.

Mae'r A4063 yn parhau ar gau ac mae'r Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth.