Ymchwiliad heddlu i ymosodiad honedig yn y Sioe Frenhinol

Sioe Fawr
Image caption Roedd y Sioe Frenhinol ymlaen yn Llanelwedd rhwng 22-25 Gorffennaf

Mae trefnwyr y Sioe Frenhinol wedi cadarnhau eu bod yn cynorthwyo'r heddlu gyda'i hymchwiliad yn dilyn ymosodiad honedig ar ddyn 76 oed yn y digwyddiad eleni.

Yn ôl trefnwyr y sioe, fe gafodd y dyn ei drin yn y ganolfan feddygol ar faes y sioe yn Llanelwedd cyn cael ei gludo i'r ysbyty.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cael mynediad at gamerâu CCTV ac maen nhw'n apelio am dystion.

Mae'r llu wedi cael cais am ymateb i'r digwyddiad.