Miloedd yn gorymdeithio drwy Gaernarfon
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Miloedd yn gorymdeithio drwy Gaernarfon

28 Gorffennaf 2019 Diweddarwyd 12:07 BST

Roedd miloedd o bobl wedi tyrru i Gaernarfon ddydd Sadwrn i gymryd rhan mewn gorymdaith yn galw am annibyniaeth i Gymru.

Fe ddechreuodd yr orymdaith am 13:00 o Faes Parcio Doc Fictoria, cyn mynd ymlaen drwy strydoedd y dref, o amgylch y castell, cyn gorffen gyda rali ar y Maes.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod tua 5,000 o bobl wedi cymryd rhan, ond yn ôl y trefnwyr mae'r ffigwr yn nes at 8,000.

Dyma adroddiad Llyr Edwards.