Real Madrid yn canslo trosglwyddiad Gareth Bale i China

Zidane a Bale
Image caption Roedd rheolwr Real Madrid, Zinedine Zidane, wedi dweud y byddai ymadawiad Bale â'r clwb y peth 'gorau i bawb'

Mae'n ymddangos na fydd ymosodwr Cymru, Gareth Bale, yn cael ei drosglwyddo i glwb yn China.

Yn ôl adroddiadau mae Real Madrid wedi canslo'r trosglwyddiad a bellach mae disgwyl i Bale aros ym mhrifddinas Sbaen.

Roedd Bale wedi cael ei gysylltu gyda throsglwyddiad i glwb Jiangsu Suning ar gytundeb tair blynedd, gyda rhai yn awgrymu y byddai'n ennill cyflog o dros £1m yr wythnos.

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd rheolwr Real Madrid, Zinedine Zidane fod Bale yn "agos iawn at adael" y clwb ac y byddai ei ymadawiad y "peth gorau i bawb."

Ond mae'n ymddangos fod Real Madrid bellach wedi newid eu meddyliau gyda rhai yn adrodd eu bod yn awyddus i dderbyn ffi amdano.

Mae gan Bale dair blynedd ar ôl ar ei gytundeb ym Madrid.

Pynciau Cysylltiedig

Straeon perthnasol